Neidio i'r prif gynnwy

Gosod eich sblint neu'ch esgid

Os ydych wedi anafu un o'ch coesau, efallai y bydd yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys wedi gosod sblint neu esgid i gadw'ch anaf yn llonydd a'i gynnal. Mae'n bwysig eich bod yn gwisgo'r sblint neu'r esgid yn unol â'r cyngor a roddwyd i chi. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, gallwch dynnu'r ateg ymaith er mwyn i chi ymolchi a gwisgo.

Gallwn roi cyngor penodol i chi ar sut i wneud hyn ar yr un pryd â diogelu'ch anaf. Nid ydym yn ailddefnyddio esgidiau na sblintiau. Pan fyddwch wedi gorffen â'ch esgid neu sblint, gallwch gael gwared â hi/ag ef.