Neidio i'r prif gynnwy

Teithio i Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain

Mae Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain yn 235 Euston Road, Fitzrovia, Llundain, NW1 2BU

 

O Paddington

        Trên Tanddaearol

Ewch ar y Circle Line neu’r Hammersmith & City Line (melyn neu binc) i orsaf tiwb Euston Square. Mae hyn yn cymryd tua 11 munud. Ewch ar y Bakerloo Line (brown) i Oxford Circus, newidiwch i’r Victoria Line (glas) i orsaf diwb Warren Street. Mae hyn yn cymryd tua 13 munud.

         Bws

O arhosfan fysiau H Paddington, ewch ar fws rhif 27 i Marylebone Station. Newidiwch i ddal bws rhif 18 i orsaf Euston Square sy’n gadael o arhosfan fysiau N. Mae hyn yn cymryd tua 30 munud.

         Cerdded

Mae’n daith gerdded o tua 3k, a fydd yn cymryd oddeutu 45 munud.

 

O Victoria

         Trên Tanddaearol

Mae’n daith gerdded fer o orsaf fysiau Victoria i’r orsaf diwb. Ewch ar y Victoria Line (glas) yn syth i Warren Street. Mae hyn yn cymryd tua 5 munud.

         Bws

Ewch ar fws rhif 2 o arhosfan fysiau H Victoria i Marylebone Road a cherddwch i orsaf Baker Street. O arhosfan fysiau D, ewch ar fws rhif 18, 205 neu 30 i orsaf Warren Street/Tottenham Court Road – arhosfan KA. Mae hyn yn cymryd tua 40 munud.

         Cerdded

Mae’n daith gerdded o tua 4k, a fydd yn cymryd oddeutu 55 munud.

Gallwch wirio cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ar dudalen we Trafnidiaeth Llundain: https://tfl.gov.uk/

 

Gyrru

Dim ond parcio ar gyfer deiliaid bathodyn glas sydd ar gael yn UCLH a bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i feysydd parcio cyhoeddus a fydd yn codi tâl. Y cod post yw NW1 2BU. Dyma’r ddolen i’w tudalen we: https://www.uclh.nhs.uk/OurServices/OurHospitals/UCH/Pages/Home.aspx

Efallai y bydd yn haws i chi yrru i orsaf ar gyrion Llundain a mynd ar y trên tanddaearol, e.e. maes parcio canolfan siopa Westfield yn Shepherd’s Bush, gan fynd ar y llinell ganolog (coch) i Tottenham Court Road, sydd 15 munud ar droed o UCLH.

Am wybodaeth am gymorth ariannol ar gyfer teithio cliciwch yma.

Dilynwch ni