Oherwydd problem fyd-eang gyda Microsoft 365 rydym yn profi oedi wrth dderbyn ac ymateb i e-byst ac ymholiadau ar-lein. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi, a gofynnwn i gleifion fod yn amyneddgar gyda ni tra bod y broblem fyd-eang yn cael ei datrys.
Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.
Gellir gwneud diagnosis o NETs mewn sawl ffordd, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu canfod i ddechrau gan Gastroenterolegwyr neu Lawfeddygon mewn ysbytai ar ôl atgyfeiriad gan feddygon teulu. Weithiau, caiff cleifion ddiagnosis yn ystod derbyniad brys, neu fe'i canfyddir drwy hap a damwain ar sgan neu endosgopi (heb achosi symptomau).
Gwneir diagnosis fel arfer ar ôl biopsi neu lawdriniaeth. Caiff cleifion sydd â NETs wedi'u cadarnhau neu NETs a amheuir eu cyfeirio at y gwasanaeth NET gan dîm clinigol bwrdd iechyd lleol at yr MDT NET gan gwblhau profforma ar-lein.
Darllenwch fwy o wybodaeth ar wefan Cydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru.
Dylai cleifion o ogledd Cymru gael eu hatgyfeirio at y ganolfan NET yn Lerpwl.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.