Neidio i'r prif gynnwy

Yr Hwb AAC

Croeso i'r gwasanaeth hwb arbenigol ar gyfer Cyfathrebu Amgen ac Ychwanegol cymhleth (AAC) - yr Hwb AAC. Rydym yn dîm amlddisgyblaethol, yn rhan o Wasanaeth Technoleg Gynorthwyol Electronig Cymru (EATS) wedi'i leoli yn Ysbyty Rookwood yng Nghaerdydd.

 

Cymhorthion Cyfathrebu

Mae'r Hwb AAC yn darparu:

  • Gwasanaethau AAC arbenigol teg ledled Cymru ar gyfer plant ac oedolion ag anghenion cyfathrebu cymhleth.

  • Asesu a darparu integredig o offer uwch-dechnoleg ar gyfer anghenion cyfathrebu a rheolaeth amgylcheddol.

  • Asesu, adolygu, treialu offer yn briodol, adolygu treialon, darparu offer.

  • Lle bo hynny'n briodol, systemau AAC uwch-dechnoleg fel benthyciad tymor hir i Ddefnyddwyr Gwasanaeth.

  • Cefnogaeth a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol lleol ac eraill sy'n cefnogi'r defnydd o'r offer.

Rydym yn gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol o fyrddau iechyd ledled Cymru sy'n gwneud atgyfeiriadau i ni ac yn parhau i gefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth. Dyma adeiniau ein hwb, ac rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos iawn gyda nhw.  

 

Beth arall mae'r Ganolfan Genedlaethol Technoleg Gynorthwyol Electronig yn ei wneud?

Un rhan yn unig o'r Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol Electronig yw cymhorthion cyfathrebu cymhleth. Rydym hefyd yn darparu dyfeisiau a chefnogaeth ar gyfer rheolaeth amgylcheddol, mynediad at gyfrifiaduron a symbylu trydanol swyddogaethol.

Bydd ein hasesiadau a'n darpariaeth ar gyfer technoleg gynorthwyol yn cwmpasu'r anghenion am gyfathrebu a rheolaethau amgylcheddol mewn ffordd integredig.

 

Dilynwch ni