Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd Cronig yr Arennau (CKD)

Gwasanaeth CKD

Rydym yn darparu clinigau nephroleg gan feddygon ymgynghorol ar draws De-ddwyrain Cymru. Mae ein tîm o nyrsys arbenigol yn cefnogi cleifion sydd â chlefyd arennol mwy datblygedig. Rydym yn ceisio rhoi gwybodaeth i gleifion sydd yn eu galluogi i gymryd perchnogaeth dros eu iechyd eu hunain. Rydym yn cefnogi cleifion drwy eu taith arennol ac cynnwys cleifion mewn penderfyniadau ynglyn a’r hyn maent eisiau ac yr hyn sy'n bwysig iddynt.

Byw yn iach gyda CKD

Os ydych yn glaf gyda CKD, rydym eisiau eich cefnogi i ddeall beth mae CKD yn ei olygu, sut y gallai effeithio ar eich bywyd a beth y gallwch ei wneud i fyw'n dda gyda CKD, gan o bosib ei ohirio rhag gwaethygu. Rydym yn eich annog chi, a'ch teulu neu ffrindiau i weld ein fideo cyflwyniadol sydd ar gael yma

Clinigau Optimeiddio Meddyginiaethau

Mae meddyginiaethau newydd wedi eu datblygu yn ddiweddar a all helpu i gadw'r arennau a'r galon yn iach am hirach. Mae llawer, ond nid pob un, o gleifion eisoes ar y meddyginiaethau hyn ac mae gennym glinigau arbennig i helpu i sicrhau bod cleifion yn ymwybodol o'r cysylltiad rhwng CKD a chalon iach. Bydd ein tîmau fferyllol ac nyrsio arbenigol yn canfod,  addysgu a cynnig cymorth i gleifion allu addasu ffactorau risg fel ysmygu a phwysau gwaed uchel, yn ogystal a chydlynu dechrau’r meddyginiaethau sydd yn fuddiol i'r arennau a'r galon.

GWELLHAU - rhagbaratoi arennol

Mae ein rhaglen rhagbaratoi arennol ‘GWELLHAU’ yn anelu i adnabod yn gynharach, y cleifion sydd mewn perygl o waethygu eu CKD. Rydym yn helpu'r cleifion hyn i ganfod elfennau o'u iechyd, llesiant a bywyd mae modd gwella ac eu cefnogi i helpu i aros yn iach, tra’n teimlo cefnogaeth. Bydd y rhaglen yn helpu paratoi cleifion rhag ofn byddant yn cyrraedd pwynt lle mae angen triniaethau pellach arnynt am CKD fwy datblygedig megis trasblaniad neu dialysis - mwy o wybodaeth yma.

Paratoi - Fy Nhaith Arennol

Os yw gweithrediad eich arennau  yn gwaethygu, efallai y bydd cyfnod lle bydd angen trafod cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Yn ystod yr amser yma efallai na fydd eich arennau yn gallu eich cadw’n iach a bydd angen triniaeth megis dialysis neu trawsblaniad.

 

Cliciwch ar y ddolen "My Kidney Journey" isod i weld sut mae'r daith yn dechrau ar gyfer ein cleifion a sut gall cleifion ddewis llwybrau gwahanol sy'n addas iddynt.

My Kidney Journey

 

Opsiynau Arennol

Gweler y dolenni isod am grynodeb byr o bob opsiwn sydd ar gael ar gyfer trin cleifion gyda CKD sydd wedi datblygu. Bydd y dogfennau hyn yn cael eu trafod gyda chi gan eich meddyg a'ch nyrs arbenigol yn y clinig arennol. Rydym eisiau i gymaint o gleifion â phosibl allu cael trawsblaniad. Pan mae angen dialysis, rydym am i gymaint o gleifion â phosibl gael y cyfle i wneud hyn o adref. Nid yw pob claf yn addas neu yn awyddus i ystyried pob triniaeth felly bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi.

Cyfarfod y nyrsys CKD arbennigol

Ein nod yw dod â gofal arennol at eich cartref cyn gynted ag sy'n bosibl. Mae ein clinigau a'n nyrsys arbenigol yn gweithio ledled de-ddwyrain Cymru. Gweler y map isod.

Mae rhestr o glinigau a rhifau cyswllt ar gael isod."

Dilynwch ni