Mae contractau gyda’r darparwyr presennol ar gyfer haemodialysis uned yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2027, ac o dan ddeddfwriaeth genedlaethol caffael mae’n rhaid hysbysebu ac ail-dendro’r gwasanaethau hyn.
Rydym yn deall y gall fod gan gleifion a pherthnasau gwestiynau. Bydd cyfres o sesiynau gwybodaeth i gleifion yn cael eu cynnal i egluro’r broses gaffael ac i ateb unrhyw gwestiynau cyffredinol.
Isod ceir atebion i gwestiynau cyffredin am y broses.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bostio SEW.HDprocurement.Cav@wales.nhs.uk
Cwestiynnau Cyffredin
Mae’r broses gaffael hon yn ymwneud â chynllunio darpariaeth gwasanaethau haemodialysis yn Ne-ddwyrain Cymru yn y dyfodol. Bydd y contractau presennol yn dod i ben yn fuan, felly mae’n rhaid i GIG Cymru ail-gaffael y gwasanaeth er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fodloni safonau uchel o ddiogelwch, ansawdd a phrofiad cleifion.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIPCF) wedi’i gomisiynu gan Rwydwaith Arennau Cymru (WKN) i weithredu’r gwasanaethau hyn. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau haemodialysis mewn unedau ar gyfer cleifion ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Rydym yn dechrau’n gynnar (Ebrill 2026) er mwyn sicrhau bod digon o amser i gynllunio’n briodol, ymgysylltu â chleifion, staff a rhanddeiliaid eraill, a gwneud penderfyniadau gwybodus.
Mae hyn yn helpu i sicrhau trosglwyddiad esmwyth pan fydd y contractau newydd yn cael eu rhoi ar waith.
Na fydd. Ni fydd unrhyw darfu ar eich triniaeth dialysis. Bydd eich amserlen dialysis, eich gofal a’ch tîm clinigol yn aros yr un fath. Mae parhad gofal diogel yn ofyniad craidd o’r broses gaffael.
Byddwn yn parhau i weithio gyda’r darparwyr presennol i gynnal gwasanaethau o ansawdd uchel yn ystod y cyfnod trosglwyddo. Gallwch rannu syniadau, canmoliaethau neu godi unrhyw bryderon drwy’r dulliau arferol drwy Reolwyr Unedau a thimau’r byrddau iechyd.
Mae’r prosiect hwn yn ei gamau cynnar. Ein nod yw parhau i ddarparu safonau uchel o ddiogelwch, ansawdd a phrofiad cleifion, gyda gwasanaethau haemodialysis mewn unedau sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Gall hyn gynnwys archwilio opsiynau fel ehangu neu leoliadau gwahanol. Byddai unrhyw gynigion yn cael eu hasesu a’u cynllunio’n ofalus, a byddai ymgysylltu â chleifion yn rhan bwysig o’r broses honno.
Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u cynllunio ar hyn o bryd. Byddai unrhyw newidiadau yn y dyfodol—pe cânt eu cynnig—yn cael eu cyfathrebu’n glir, eu trafod gyda chleifion, a’u cynllunio i leihau unrhyw darfu i’r eithaf.
Y prif ffocws yw sicrhau bod gwasanaethau dialysis yn parhau i fodloni safonau uchel o ansawdd a diogelwch ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
Mae’r prosiect caffael yn broses ofynnol. Bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail gwerth ac ansawdd, gan gynnwys safonau clinigol, profiad cleifion, hygyrchedd a chynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth.
Bydd y ddarpariaeth feddygol yn eich uned yn aros yr un fath. Os penodir darparwr newydd, bydd staff yn trosglwyddo i’r darparwr newydd o dan reoliadau TUPE (Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth)).
Rhaid i unrhyw fodel staffio yn y dyfodol gynnal gofal diogel a medrus.
Mae’r broses gaffael yn cael ei rhedeg gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP), gan weithio’n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Rhwydwaith Arennau Cymru i sicrhau bod y gwasanaethau’n bodloni safonau cenedlaethol a rhanbarthol.
Byddant. Mae ymgysylltu â chleifion yn rhan bwysig o’r gwaith hwn. Mae’r sesiwn hon yn gyfle cynnar i rannu gwybodaeth, a bydd sesiynau wyneb yn wyneb a rhithwir pellach wrth i’r prosiect ddatblygu, gan gynnwys ymgysylltu yn bersonol mewn unedau dialysis.
Gallwch. Gallwch rannu eich barn, blaenoriaethau a phryderon. Er na allwn bob amser ddiwallu pob dewis unigol, mae eich adborth yn helpu i lunio gofynion y gwasanaeth, megis hygyrchedd, yr amgylchedd, cyfathrebu a’r profiad cyffredinol.
Gallwch rannu eich barn drwy’r cyfeiriad e-bost a ddarperir neu drwy eich ymgynghorydd uned.
Mae’r broses gaffael hon yn cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru gyfan, sy’n anelu at ehangu cyfleoedd ar gyfer dialysis cartref a thrawsblannu lle bo hynny’n briodol.
Mae’r rhain yn parhau’n elfennau pwysig o ofal arennol ledled Cymru.
Ar ôl yr ymgysylltu cynnar hwn, bydd y broses gaffael ffurfiol yn parhau. Byddwn yn rhannu diweddariadau ac yn cynnal sesiynau gwybodaeth pellach wrth i gerrig milltir allweddol gael eu cyrraedd.
Bydd cleifion yn cael eu hysbysu drwy gydol y broses.
Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost os gallwch, neu fel arall gallwch gyflwyno cwestiynau drwy eich Ymgynghorydd Uned neu aelodau staff yr uned.
Os byddai’n well gennych, mae ein partner yn y sector gwirfoddol, Kidney Wales, yn hapus i gasglu cwestiynau a gallwn ddarparu ymatebion drwy’r dull hwn.
Na fydd. Bydd cludiant yn parhau i gael ei ddarparu gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru drwy’r Renal Hub, ac ni fydd y broses gaffael hon yn effeithio arno.
Rydym yn parhau’n ymrwymedig i Siarter y Claf a’r ymrwymiad 30:30:30.
Byddant. Bydd gofynion y gwasanaeth yn adlewyrchu’r trefniadau presennol, gan gynnwys darparu brechdanau yn ystod triniaeth dialysis.
Dechreuodd y gwaith yn 2025 ac mae’n parhau drwy 2026 er mwyn caniatáu digon o amser ar gyfer cynllunio, ymgysylltu a chymeradwyaethau.
2025: ymgysylltu cynnar â chyflenwyr a chynllunio cychwynnol.
2026: ymgysylltu â chleifion, staff a rhanddeiliaid; mireinio manyleb y gwasanaeth; a gofyn i ddarpar ddarparwyr ddatblygu opsiynau sy’n diwallu anghenion cleifion.
2027: tendro ffurfiol, gwerthuso a gwneud penderfyniadau, gyda chontractau newydd yn eu lle cyn mis Gorffennaf 2027.
Bydd trefniadau ar gyfer gweithredu’r contractau newydd yn cael eu cynllunio’n fanwl i sicrhau na fydd unrhyw darfu ar driniaeth dialysis.
Ni fydd unrhyw darfu ar driniaeth dialysis fel rhan o’r broses hon.
Nid yw’r gwaith hwn yn gysylltiedig â’r etholiad.
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i GIG Cymru ail-gaffael gwasanaethau dialysis oherwydd bod y contractau presennol yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2027.
Rhaid dechrau cynllunio ymhell ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod gwasanaethau diogel o ansawdd uchel yn gallu parhau heb darfu.
Yn ystod y cyfnod cyn etholiad, gall sefydliadau’r GIG barhau i:
• gyflawni gwaith cynllunio hanfodol
• parhau ag ymgysylltu a gwaith paratoi
• paratoi ar gyfer penderfyniadau yn y dyfodol
Ni allant:
• wneud unrhyw benderfyniadau mawr
• cyhoeddi unrhyw ddogfennau caffael yn gyhoeddus
• gweithredu unrhyw newidiadau i wasanaethau
Dyna pam mae ymgysylltu â chleifion yn digwydd nawr: i egluro’r broses, rhoi sicrwydd, ac ateb cwestiynau cyn i unrhyw gamau caffael ffurfiol symud ymlaen.
Byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr i sicrhau mynediad at yr offer diweddaraf sydd eu hangen, gyda staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol i’w defnyddio.
Rydym eisoes wedi clywed gan gleifion fod cysur cadeiriau a gwelyau yn bwysig, felly byddwn yn sicrhau bod cleifion yn cael eu cynnwys wrth brofi ac adolygu unrhyw offer newydd a gynigir fel rhan o’r broses hon.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.