Grŵp Llywio Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro eisoes yn cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli bod llawer i'w wneud o hyd

Rydym yn gofyn i bawb feddwl sut y gallent gyfrannu at y pum ffordd o weithio i wneud yn siwr bod ein gwasanaethau yn gynaliadwy, ac yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad pobl heddiw ac yn y dyfodol.

Nod y ddeddf yw gwella'r potensial am wella iechyd a llesiant mewn ardaloedd lleol, a gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill a sefydliadau rhanddeiliaid traws-sector i gryfhau effaith y Ddeddf ar iechyd a llesiant, gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol.

Rydym yn gweithio i sicrhau ein bod ni'n: 

  • Meddwl mwy am yr hirdymor yn ein gwaith;
  • Cydweithredu'n well gyda'r boblogaeth, cymunedau a chyda'n gilydd;
  • Canolbwyntio ar atal;
  • Gweithredu'n fwy integredig, gan ystyried sut gall y camau a gymerwn mewn un maes effeithio ar feysydd eraill;
  • Cynnwys y bobl fydd yn elwa o wasanaethau.

Rydym yn mynd ati'n fwy cysylltiedig i gyflawni'r Gymru a garem.

Gall pawb yn y Bwrdd Iechyd gyfrannu at weithredu heddiw er gwell yfory yn ein gweithredoedd, yn y gwaith a'r tu hwnt iddo.

Cysylltu â ni

Os hoffech drafod eich syniadau, eich prosiectau, neu gysylltu â ni, cysylltwch â Deborah Page - Deborah.Page2@wales.nhs.uk a Louise Knott - Louise.Knott@wales.nhs.uk

Diben Grŵp Llywio Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 

O fewn y Bwrdd Iechyd, mae Grŵp Llywio Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol; diben y grŵp hwn yw dwyn trefn i waith y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn y maes hwn, gan sicrhau bod y sefydliad yn bodloni rhwymedigaethau statudol cyrff cyhoeddus fel y'u hamlinellir yn Rhannu Pwrpas: Rhannu Dyfodol 2 (Canllawiau Statudol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015). 

Hefyd, bydd y Grŵp yn cynnig arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol i waith Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Amcanion Grŵp Llywio Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 

Mae amcanion Grŵp Llywio Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fel a ganlyn:-

  • Datblygu amcanion llesiant y Bwrdd Iechyd Prifysgol (gan gyfrif am Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol ac Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol), gan roi argymhellion i Fwrdd y Bwrdd Iechyd Prifysgol drwy'r Cynllun Integredig Tymor Canolig;
  • Adolygu amcanion llesiant y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn flynyddol, gan gyfrif am yr asesiadau o lesiant lleol a gyhoeddir gan y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus;
  • Cynnig trosolwg ar gyflawni camau gweithredu sy'n dangos bod Strategaeth Llunio Dyfodol ein Lles yn cael ei gyflawni, o safbwynt Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 
  • Amlygu cyfleoedd ar y cyd i weithio gyda chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, i gydweithredu ar brosiectau sy'n cyfrannu at yr amcanion llesiant;
  • Adolygu cynnwys Adroddiad Blynyddol drafft y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn amlinellu cynnydd yn erbyn amcanion llesiant y Bwrdd Iechyd Prifysgol;
  • Cael ac ymateb i unrhyw adroddiadau neu argymhellion (gan gynnwys enghreifftiau o arfer da) gan y Comisiynydd neu gyrff rheoleiddio eraill yn gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol; ac 
  • Eirioli Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o fewn y sefydliad ac ymhlith rhanddeiliaid allanol eraill.
Aelodaeth

Bydd Grŵp Llywio Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd. 

Bydd yr aelodau'n cynnwys y canlynol:-

Y Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd 

Y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chynllunio;

Y Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol;

Y Cyfarwyddwr Cyfathrebiadau ac Ymgysylltu;

Y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid;

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygiad Strategol a Thrawsnewid;

Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Sefydliadol;

Meddyg Ymgynghorol Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd;

Arweinydd Cynllunio Strategol Corfforaethol 

Y Pennaeth Caffael;

Y Pennaeth Cludiant a Theithio Cynaliadwy;

Y Pennaeth Perfformiad ac Ynni;

Rheolwr Cynllunio a Phartneriaeth Strategol;

Arweinydd Ymgysylltu; a

Phartner o blith y staff.