Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion Strategol

 

Beth ydym am ei Gyflawni
 

Ein cenhadaeth: Gofalu am Bobl, Cadw Pobl yn Iach
Ein gweledigaeth: Mae siawns person o fyw bywyd iach yr un fath lle bynnag mae'n byw a phwy bynnag ydyw.
Ein Strategaeth yw:
Ein Hamcanion Strategol yw:

Cyflawni gofal cydgysylltiedig yn seiliedig ar ‘gartref yn gyntaf’, osgoi niwed, gwastraff ac amrywiad, grymuso pobl a rhoi canlyniadau sy’n bwysig iddynt.

Grymuso’r Person 

  • Cefnogi pobl i ddewis ymddygiadau iach 
  • Annog hunanreolaeth cyflyrau 

Gartref yn Gyntaf 

  • Galluogi pobl i gynnal neu adfer eu hiechyd yn eu cartref neu mor agos ato â phosibl 

Canlyniadau sy’n bwysig i bobl 

  • Creu gwerth drwy gyflawni’r canlyniadau a’r profiad sy’n bwysig i bobl am gost briodol 

Osgoi niwed, gwastraff ac amrywiad 

  • Mabwysiadau ymarfer seiliedig ar dystiolaeth, gan safoni fel y bo'n briodol 
  • Gwneud defnydd llawn o’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael, gan fyw o fewn y cyfanswm 
  • Lleihau niwed y gellir ei osgoi 
  • Cyflawni canlyniadau drwy’r ymyrraeth briodol lleiaf posibl 

Ar gyfer Ein Poblogaeth – byddwn yn:

  • lleihau anghydraddoldebau iechyd;
  • sicrhau canlyniadau sy’n bwysig i bobl; a
  • sicrhau bod pawb yn cymryd cyfrifoldeb am wella ein hiechyd a’n lles.

Ein Blaenoriaethau Gwasanaeth – byddwn yn:

  • cynnig gwasanaethau sy’n rhoi’r iechyd poblogaeth y mae gan ein dinasyddion yr hawl i’w ddisgwyl.

Cynaliadwyedd – bydd gennym:

  • system o ofal heb ei gynllunio (brys) sy’n rhoi’r gofal cywir, yn y lle cywir, y tro cyntaf;
  • system gofal wedi’i gynllunio lle mae’r galw a’r gallu yn gytbwys; a
  • byddwn yn lleihau niwed, gwastraff ac amrywiad yn gynaliadwy gan wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael i ni.

Diwylliant – byddwn yn:

  • lle gwych i weithio a dysgu;
  • gweithio’n well gyda phartneriaid i ddarparu gofal a chefnogaeth ar draws y sectorau gofal, gan wneud y defnydd gorau o’n pobl a thechnoleg; a
  • rhagori ym meysydd addysgu, ymchwil, arloesedd a gwelliant a darparu amgylchedd lle mae arloesedd yn ffynnu.

 

Dilynwch ni