Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Iechyd Darbodus

Datblygwyd y syniad o ofal iechyd darbodusgan Gomisiwn Bevan yn 2013 mewn ymateb i her sut mae gwella gofal iechyd mewn cyfnodau o gyni. Ers hynny, mae wedi dod yn brif strategaeth iechyd i Lywodraeth Cymru.

Nod y strategaeth yw darparu gofal iechyd sy'n gweddu i anghenion ac amgylchiadau defnyddwyr gwasanaethau, ac sy'n mynd rhagddo i osgoi gofal aneffeithiol nad yw o fudd i gleifion.

Mae'n gofyn bod gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a'r llywodraeth yn defnyddio adnoddau'n effeithiol ac yn effeithlon i osgoi gwastraff a niwed y gellir eu hosgoi.
 

Gofal Iechyd Darbodus

Ffynhonnell: 1000 o Fywydau a Mwy

 

Llunio Dyfodol Ein Lles drwy Ofal Iechyd Darbodus

Mae egwyddorion gofal iechyd darbodus yn allweddol ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd cynaliadwy yn y dyfodol ac, o ganlyniad, maent i'w gweld gydol ein rhaglen, Llunio Dyfodol Ein Lles. Maent wedi'u hadlewyrchu yn Egwyddorion Llunio Dyfodol Ein Lles gennym ac yn y broses o ddatblygu'r rhaglen.

Gwneud i Ofal Iechyd Darbodus Ddigwydd

Yn ddiweddar, ysgrifennodd Cyfarwyddwr Meddygol a Phediatregydd Ymgynghorol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Dr Graham Shortland, erthygl ar gyfer gwefan Gwneud i Ofal Iechyd Darbodus Ddigwydd, gyda'i fyfyrdodau ar gynnwys ffisegwyr a chleifion mewn sgyrsiau am atal niwed, rhoi'r gorau i brofion diangen, a gwerthuso triniaethau a gweithdrefnau.

Gallwch ddarllen 'Turning everyday medical decisions into prudent practice' yma.

 

 

Dilynwch ni