Neidio i'r prif gynnwy

Bwyty Y Gegin

Y Gegin yw bwyty bywiog disglair YAC sy'n cynnig detholiad o fwyd iach, wedi'i goginio'n ffres. 

Dewiswyd yr enw gan staff y bwrdd iechyd.

Mae'r bwyty'n ymgorffori dull syml o ddarparu prydau bwyd iachus, maethlon a fforddiadwy i staff ac ymwelwyr eu mwynhau. Mae Y Gegin yn cynnig Cownter Coginio Theatr lle mae pasta ffres a phrydau tro-ffrio yn cael eu coginio tra'r ydych yn disgwyl, a barbeciw sy'n cynnig cig wedi'i farinadu'n ffres gyda detholiad o saladau a rholiau.

Mae hefyd yn cynnwys gwasanaeth gwerthu prydau poeth llawn. Nid yw hwn ar gael ar hyn o bryd yn ystod oriau agor arferol, ond bydd ar gael 24/7 yn y dyfodol agos. Mae gwasanaeth gwerthu cyfyngedig hefyd ar gael yn yr Uned Achosion Brys.

Bydd elw o'r bwyty yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl yn y bwrdd iechyd ar gyfer gwasanaethau cleifion.

Daw lansiad y bwyty newydd wrth i'r BIP ddathlu ei Bolisi Safonau Bwytai a Manwerthu Bwyd Ysbytai, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, sy'n ceisio gwneud opsiynau iach yn ddewis haws. Mae'r Tîm Iechyd Cyhoeddus lleol yn gweithio gyda'r timau gweithredol ac arlwyo i sicrhau bod 75% o'r holl fwyd a diod yn cwrdd â'r gofynion ar gyfer cynnwys siwgr a braster.

Oriau agor    

  • Brecwast            7.30am – 11am
  • Cinio                  11.30am – 2.30pm
  • Swper                4.30pm – 6.30pm
  • Dros Nos           7.30pm – 6.30am (gwerthu o beiriant yn unig)

Ceir Aroma Express yn Y Gegin ac mae ar agor rhwng 7.00am a 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lle i ddod o hyd i'r Gegin

Bloc A
Llawr Gwaelod Uchaf
Ysbyty Athrofaol Cymru
Caerdydd

 

Dilynwch ni