Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad Baich Anghymesur

 

Er y byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth i gleifion i sicrhau ei bod yn hygyrch yn ddigidol lle bynnag y bo modd, rydym yn gwybod bod rhai adrannau o’n gwefan nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd sydd wedi’u cynhyrchu ers mis Medi 2018.   
 

1. Dogfennau PDF


Buddiant

Byddai darparu disgrifiadau mewn dogfennau PDF yn sicrhau bod pawb yn gallu dilyn a deall y wybodaeth a gyflwynir. Mae hyn yn cynnwys mynediad i ddefnyddwyr â dallineb, namau echddygol, nam ar y clyw, namau ar y golwg, anhwylderau gwybyddol, namau sy'n gysylltiedig ag oedran a mwy.

Rheoliadau Hygyrchedd y Tu Allan i'r Cwmpas

Nid yw'r gofynion hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft Papurau'r Bwrdd a Phwyllgorau, polisïau a dogfennau gweithdrefn y Bwrdd Iechyd neu ddogfennau statudol megis Adroddiadau Blynyddol.

Baich

Rydym wedi adolygu’r dogfennau PDF ar y wefan sy’n cynnwys:

  • Papurau Bwrdd neu Bwyllgor 
  • Adroddiadau perfformiad a allai gynnwys adroddiadau cymhleth/data ystadegol. 
  • Polisïau a gweithdrefnau a gynhyrchwyd ers mis Medi 2018 
  • Cyhoeddiadau sy'n gysylltiedig o'n tudalennau Rhyddid Gwybodaeth — gan gynnwys cofnodion datgelu. 
  • Cyhoeddiadau a allai fod wedi cael eu cynhyrchu'n broffesiynol ers mis Medi 2018 y byddai'n rhaid eu trwsio gan drydydd parti.

Ar hyn o bryd mae miloedd o ddogfennau hanesyddol wedi eu creu gan y sefydliad ar y wefan. 

Rydym wedi defnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth i werthuso’r defnydd o’r adnoddau hyn. O'i gymharu â chyd-destun y wefan ehangach ac yn seiliedig ar adolygiad Google Analytics o 01/09/2022 - 01/09/2023, mae hyn yn dangos mai dim ond nifer fach o ddefnyddwyr sy'n cyrchu'r tudalennau sy'n cynnwys dolenni i'r dogfennau PDF. 
 
Byddai angen cryn dipyn o amser ac adnoddau i ail-greu pob dogfen mewn fersiwn cwbl hygyrch a fyddai'n cynnwys nifer o newidiadau gan gynnwys ychwanegu disgrifiadau, cyferbynnu lliw, a throsi'r rhain i fformat HTML. 

Asesiad

Ystyriwn y byddai trosi dogfennau hŷn lle nad oes llawer o dystiolaeth o alw yn faich anghymesur ar y sefydliad o ran amser, adnoddau a chost. 
 
Rydym wedi ystyried bod ein datganiad hygyrchedd presennol ar y wefan yn hysbysu’r rhai sydd angen gwybodaeth, gan gynnwys dogfennau PDF hygyrch, i gysylltu â’r tîm cyfathrebu yn y lle cyntaf a fydd yn trosglwyddo’r cais i’r tîm perthnasol, lle mae adnoddau hygyrch ar gael ar gais. 
 
Rydym yn ychwanegu canllawiau ar greu a lanlwytho dogfennau PDF hygyrch i’n canllawiau hyfforddi presennol ar y wefan sy’n ymdrin â hygyrchedd, sydd ar gael i staff, ac rydym wedi bod yn treialu proses gymeradwyo fel y gallwn fonitro’r dogfennau hyn cyn iddynt gael eu cyhoeddi i fonitro hygyrchedd. 

 

2. Testun alt ar ddelweddau 


Buddiant

Mae testun amgen (Alt Text) yn briodwedd HTML Alt sy'n helpu i ddisgrifio delwedd i ddefnyddwyr nad ydynt yn gallu ei gweld. Fe’i defnyddir gan offer hygyrchedd fel darllenwyr sgrin i helpu unrhyw un a allai gael anawsterau wrth bori’r wefan.

Baich

Mae ein gwefan yn cynnwys miloedd o dudalennau gwe y byddai angen llawer iawn o amser ac adnoddau i’w monitro, gwerthuso a newid pob delwedd heb destun alt. Mae angen cyfieithiad Cymraeg ar gyfer pob disgrifiad sy'n ychwanegu cost a galw ychwanegol ar amser.

Asesiad

Rydym wedi ychwanegu tagiau alt gyda thestun i ddelweddau ar y mwyafrif o dudalennau sylfaenol ac eilaidd. 
 
Rydym wedi rhoi blaenoriaeth i ychwanegu testun amgen a disgrifiadau ar dudalennau gwe sydd â gwybodaeth allweddol ar gyfer diogelwch y cyhoedd gan gynnwys ein tudalen cysylltu â ni. 
 
Rydym wedi cynnwys canllawiau hygyrchedd ynghylch ychwanegu capsiynau a thestun alt at ein canllawiau hyfforddi ar y wefan sydd ar gael i staff, ac rydym wedi bod yn treialu proses gymeradwyo fel y gallwn fonitro’r dogfennau hyn cyn iddynt gael eu cyhoeddi i fonitro hygyrchedd. 

 

Paratoi'r asesiad hwn

Paratowyd yr asesiad hwn ym mis Medi 2023.

Dilynwch ni