Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw pryder?

Yn syml, pryder yw teimlad neu gred nad yw rhywbeth yn iawn.

Efallai eich bod yn poeni nad yw eich pryder yn “ddigon difrifol” neu ei fod yn ymwneud ag arferion sy’n ymddangos yn “normal” i eraill rydych yn gweithio gyda hwy. Os ydych chi’n credu bod cleifion neu gydweithwyr yn cael eu niweidio neu y gallent gael eu niweidio, dylech roi gwybod amdano.

Mae risg y bydd ymddygiadau sy’n achosi pryder, camau gweithredu neu ddiffyg camau gweithredu nad ydynt yn cael eu herio yn dod yn bethau normal o fewn sefydliadau. Mae cyflogeion yn aml yn ei chael yn anodd deall sut mae’r “pethau normal” hyn sy’n achosi pryder wedi dod yn rhywbeth sefydledig o fewn eu gweithle.

Os ydych chi’n ansicr ynghylch codi pryder, gofynnwch i chi eich hun:

  • Sut fyddwn i’n teimlo petai aelod o’m teulu yn cael ei drin yn y ffordd hon?
  • Beth allai ddigwydd pe na bawn yn codi’r pryder? (Meddyliwch am yr effeithiau yn y tymor byr a’r tymor hir)
  • Os gofynnir i mi, allwn i gyfiawnhau pam y dewisais beidio â chodi pryder?

Os oes gennych bryder, rhowch wybod amdano. Mae eich llais o bwys.

Dilynwch ni