Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdai Llesiant

Mae'r gyfres o weithdai Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr (EWS) wedi'i chynllunio ar gyfer aelodau staff unigol sydd eisiau deall mwy amdanynt eu hunain, sut maent yn cyfathrebu ag eraill a chynyddu eu gallu i roi sylw i'w llesiant. Mae'r hyfforddiant am ddim i staff BIP Caerdydd a'r Fro a gellir ei fynychu o fewn amser gwaith gyda chymeradwyaeth eich rheolwr.
 

Mae'r Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr wedi symud ein Gweithdai Llesiant ar-lein! Rydym hefyd yn cynnig sesiynau Holi ac Ateb ar amrywiaeth o bynciau Iechyd Meddwl a Llesiant! Mae gennym hefyd Sianel YouTube gyda'n gweithdai yn cael eu recordio ar-lein ar hyn o bryd.


Archebwch eich lle nawr!


 


Rhagfyr 2020
 

Gweithdy Asesu Risg Straen i Reolwyr: Dydd Mawrth 1af Rhagfyr, 09:30-11:30 

Mae'r gweithdy hwn ar gyfer rheolwyr sydd eisiau gwybod mwy am straen yn y gweithle, adnoddau straen, a bydd yn cyflwyno ac yn esbonio'r ffurflen Asesu Risg Straen y gellir ei defnyddio gyda staff.

https://www.eventbrite.co.uk/e/stress-risk-assessment-for-managers-workshop-cavuhb-managers-only-tickets-121021888727?aff=ebdssbonlinesearch


Cyflwyniad i Weithdy Tosturi a Hunanofal: Dydd Mawrth 15fed Rhagfyr 13:30-15:30 

Bydd y gweithdy hwn yn darparu gwybodaeth am bwysigrwydd hunan-dosturi a hunanofal ac yn darparu adnoddau i helpu gyda hyn.

https://www.eventbrite.co.uk/e/introduction-to-compassion-and-self-care-workshop-cavuhb-staff-only-tickets-121022813493?aff=ebdssbonlinesearch


Holi ac Ateb Ymwybyddiaeth Ofalgar: Dydd Mawrth 22ain Rhagfyr13:30-14:30 

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys cyflwyniad byr ar Ymwybyddiaeth Ofalgar ac arferion/adnoddau Ymwybyddiaeth Ofalgar, ac yna bydd amser ar gyfer Holi ac Ateb a thrafodaeth.

https://www.eventbrite.co.uk/e/mindfulness-q-a-for-cavuhb-staff-only-tickets-121023222717?aff=ebdssbonlinesearch

Gweithdai 2021

Ionawr: Cymryd camau cadarnhaol yn y Flwyddyn Newydd

Chwefror: Amser i siarad

Mawrth: Ffocws ar Gwsg

Ebrill: Ymwybyddiaeth straen

Mai: Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

 
 
 
Dilynwch ni