Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor cyfreithiol

Amrywiaeth o sefydliadau sy'n darparu cyngor a chefnogaeth gyfreithiol am ddim.

citizens advice

Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor rhad ac am ddim, sy'n annibynnol, cyfrinachol a diduedd i bawb ar eu hawliau a'u cyfrifoldebau.
Cyntedd Ysbyty Athrofaol Cymru ar ddydd Iau 10am 1pm Sesiwn Galw Heibio Drws Agored.
03444 772020 - Llinell Gyngor, 02920 871016 - Llinell weinyddol
I ddarganfod mwy ewch i www.citizensadvice.org.uk

 

law works

Mae LawWorks yn elusen sy'n gweithio yng Nghymru a Lloegr i gysylltu cyfreithwyr gwirfoddol â phobl sydd angen cyngor cyfreithiol, nad ydynt yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ac na allant fforddio talu, a chyda'r sefydliadau dielw sy'n eu cefnogi.

Maent yn cynnig clinigau cyngor cyfreithiol am ddim, cyfryngu am ddim a chymorth gwaith achos am ddim. Mae clinigau yn darparu cyngor cychwynnol am ddim i unigolion gyda ffocws penodol ar faterion llesiant cymdeithasol, cyfraith cyflogaeth, materion tai ac anghydfodau defnyddwyr.
I ddod o hyd i'ch Clinig LawWorks agosaf, ewch i www.lawworks.org.uk

 

University South Wales

Mae Prifysgol De Cymru wedi sefydlu gwasanaeth newydd am ddim yng nghanol Caerdydd, gan gynnig cyngor cyfreithiol am ddim gan Wirfoddolwyr Clinig Myfyrwyr hyfforddedig dan oruchwyliaeth cyfreithwyr a bargyfreithwyr gweithredol.
Clinig Cyngor Cyfreithiol ac Ariannol
Atlantic House, Tyndall St, Caerdydd. CF10 4AZ
Ffôn: 01443 668600 E-bost lafac@southwales.ac.uk

 

 

Dilynwch ni