Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau a Chymorth EWS sydd Ar Gael

Yn ddiweddar, mae'r bwrdd iechyd wedi ymuno â #DoingOurBit, platfform ar-lein i staff y GIG yn unig, sy'n cynnwys ystod o sesiynau ffitrwydd y gall staff Caerdydd a'r Fro eu cyrchu am ddim nawr.

I gael mynediad i'r platfform, mae angen i weithwyr gofrestru trwy ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost GIG. Rydym yn ymwybodol nad oes gan nifer o weithwyr fynediad i gyfeiriad e-bost y GIG ar hyn o bryd, ac mae'r Gwasanaeth Iechyd a Llesiant Gweithwyr yn gweithio i ddod o hyd i ateb i sicrhau bod yr holl staff yn gallu cyrchu'r platfform pe byddent eisiau gwneud hynny.

Os hoffai unrhyw aelodau o'ch tîm gael mynediad i'r platfform #DoingOurBit ond nad oes ganddynt fynediad i gyfeiriad e-bost y GIG ar hyn o bryd, anfonwch restr o'u henwau i Nicky Bevan Nicola.Bevan3@wales.nhs.uk fel y gellir trefnu mynediad i'r platfform ar eu cyfer unwaith y bydd datrysiad wedi'i ganfod.

Mae ystod o gefnogaeth, yn fewnol ac yn allanol, ar gael ar gyfer eich holl anghenion llesiant. Dewiswch yr opsiynau isod i ddarganfod mwy:

Gwasanaeth Cwnsela EWS

Gallwn gynnig hyd at chwe sesiwn o gwnsela, os yw hyn yn briodol. 

Y Prosiect Gwirionedd

Mae'r Prosiect Gwirionedd yn rhan o'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol. Mae'r Prosiect Gwirionedd yn cynnig cyfle i ddioddefwyr a goroeswyr rannu eu profiad.

Darparwyr Cwnsela Eraill

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am ystod o sefydliadau cwnsela lleol a chenedlaethol.   

Apiau Iechyd Meddwl

Dewch o hyd i offer digidol a gymeradwywyd gan y GIG i'ch helpu i reoli a gwella'ch iechyd.

Gweithdai Llesiant

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am y gweithdai rydyn ni'n eu cynnig ar hyn o bryd.

Hunan Gymorth

Gwybodaeth ddefnyddiol am ystod o broblemau a all effeithio ar eich llesiant emosiynol.

Darllen yn Dda

Mae Darllen yn Dda yn eich cefnogi i ddeall a rheoli eich iechyd a'ch llesiant drwy ddefnyddio darllen defnyddiol. Mae'r llyfrau i gyd yn cael eu dewis a'u cymeradwyo gan arbenigwyr iechyd, yn ogystal â chan bobl sy'n byw gyda'r cyflyrau dan sylw a'u perthnasau a'u gofalwyr.

Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Caerdydd a'r Fro (Stepiau)

Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol i bobl o bob oed. Os nad yw'ch meddyg teulu wedi'i leoli yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg a bod gennych ddiddordeb mewn cyrchu grŵp therapiwtig, dylech allu cyrchu hwn trwy eich Bwrdd Iechyd lleol:  BIP Abertawe Bro Morgannwg BIP Aneurin Bevan BIP Cwm Taf

Atgyfeirio i Ymarfer

Mae'r cynllun hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi'i gynllunio i ddarparu cyfleoedd i wneud ymarfer corff sy'n hwyl, yn werth chweil ac y gellir ei ymgorffori i mewn i fywyd beunyddiol.

Cyngor cyfreithiol

Amrywiaeth o sefydliadau sy'n darparu cyngor a chefnogaeth gyfreithiol am ddim.

Cyngor Dyled

Elusennau Cenedlaethol sy'n cynnig cyngor ar ddyledion am ddim a chefnogaeth ymarferol.

Teuluoedd a Phlant

Sefydliadau ac elusennau lleol a rhanbarthol sy'n darparu cefnogaeth ar ystod eang o faterion teuluol.

Ymwybyddiaeth Ofalgar

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ddull sy'n helpu pobl i reoli eu meddyliau a'u teimladau. Rhestr o adnoddau lleol ac ar-lein defnyddiol

EPP Cymru

Mae EPP Cymru yn darparu ystod o gyrsiau a gweithdai iechyd a llesiant hunanreoli i bobl sy'n byw gyda chyflwr iechyd.

Gwybodaeth Llesiant Staff i Reolwyr a Staff

Mae'r dudalen hon yn eich cyfeirio at wefannau ac adnoddau eraill i roi cyngor ac arweiniad i chi ar y ffordd orau i gefnogi llesiant staff. Mae Ein Materion Llesiant yn Bwysig [English] [Cymraeg]

Llesiant

Dewis Cymru yw'r lle i gael gwybodaeth am lesiant yng Nghymru. Nod gwefan Dewis Cymru yw darparu gwybodaeth o ansawdd gan rwydwaith o sefydliadau gofal cymdeithasol, iechyd a thrydydd sector ledled Cymru.

Llinellau Cymorth a Chefnogaeth Frys

Nid yw'r Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr yn delio â materion iechyd meddwl brys neu argyfwng.

Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth am bobl y gallwch siarad â nhw heddiw.

Dilynwch ni