Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Plant

Meithrinfa Tedi Bêr

Rydym yn ffodus iawn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gael dwy feithrinfa gofal dydd yn y gweithle.

Un feithrinfa 60 lle yn Ysbyty Athrofaol Cymru a meithrinfa 30 lle ar safle Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae'r ddwy feithrinfa'n gofalu am blant rhwng 3 mis a 5 oed ac maent ar agor rhwng 8:00 am (neu 7:00am am gost ychwanegol) i 6:00pm.

Am wybodaeth bellach, edrychwch ar boster Meithrinfa Tedi Bêr, lawrlwythwch Prosbectws Meithrinfeydd 2019, neu cysylltwch â'r canlynol:

  • Arfana Ashraf ar 02920 742 550 ar gyfer safle YAC,
  • Kelly Lovell ar 02920 715 697 ar gyfer safle YALl
  • Suzanne Toft ar 02921 826 216 (est 26216) ar gyfer pob ymholiad gofal plant; neu
  • Janice Pitt ar 02921 826 844 (est 26884) ar gyfer pob ymholiad gofal plant.

Mae Meithrinfeydd Tedi Bêr bellach ar agor i bawb, ac nid oes rhaid i chi gael eich cyflogi gan y BIP i wneud cais am le.

Ffurflenni Cais

Ffurflen Gais Rhestr Aros Meithrinfa Tedi Bêr - YAC

Ffurflen Gais Rhestr Aros Meithrinfa Tedi Bêr - YALl

Rhestr Prisiau Meithrinfa Tedi Bêr

Dewisiadau Cyllido Gofal Plant

Y dewisiadau sydd gan rieni o ran ariannu eu trefniadau gofal plant yw Gofal Plant Di-dreth, Credydau Cyffredinol a Lleoedd Gofal Plant a Ariennir. Bydd gwefan Cyllid a Thollau EM yn helpu pob rhiant i wneud penderfyniad gwybodus ar yr opsiynau sy'n agored iddynt.

Gofal Plant Di-dreth

Mae hyn yn cyfateb i’r dreth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei thalu - 20% - sy’n rhoi'r enw i’r cynllun, ‘di-dreth’. Bydd y Llywodraeth yn ychwanegu at y cyfrif gydag 20% o gostau gofal plant hyd at gyfanswm o £10,000 - sy'n cyfateb i hyd at £2,000 o gefnogaeth y plentyn y flwyddyn (neu £4,000 i blant anabl). Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan gov.uk.

Cynnig Gofal Plant

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i'w chynnig gofal plant fod mor glir a hawdd ei chyrchu â phosibl fel y gall rhieni barhau i ddewis y darparwyr sy'n gweddu orau i'w hanghenion. Bydd rhieni'n derbyn cyfanswm cyfun o 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yn ystod y tymor. Bydd yr addysg gynnar am ddim gyfredol a ddarperir gan y Cyfnod Sylfaen yn rhan o'r cynnig hwn. Am 9 wythnos o'r flwyddyn, y tu allan i dymor, bydd rhieni'n derbyn 30 awr yr wythnos o ofal plant.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r dewisiadau cyllido, cysylltwch â Suzanne Toft, Uwch Reolwr Gofal Plant BIP ar Suzanne.Toft@wales.nhs.uk neu YALl est 26884 neu 02920 716884.

Talebau Gofal Plant Edenred

***Mae Cynllun Talebau Gofal Plant Edenred bellach ar gau i ddefnyddwyr BIP newydd***


Cyfosodiad o luniau meithrinfa

 

 

Dilynwch ni