Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau ar gyfer Gofalwyr Di-dâl

Adnodd Ar-lein i Ofalwyr

Mae adnodd cymunedol o'r enw Dewis Cymru wedi'i ddatblygu i ddarparu cyfeirlyfr o wasanaethau ac adnoddau lleol. Bydd y cyfeirlyfr yn rhoi mynediad hawdd i bobl at wybodaeth am wasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd, y trydydd sector a'r sector annibynnol.

Cyhoeddiadau Defnyddiol ar gyfer Gofalwyr Di-dâl

Mae'r Llawlyfr Gofalwyr bellach wedi'i rannu'n daflenni ffeithiau gwybodaeth unigol. Fe'u cyhoeddir gan Gyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'r rhain yn darparu gwybodaeth sylfaenol am y rhan fwyaf o bethau y mae angen i ofalwyr eu gwybod, yn Saesneg ac yn y Gymraeg. Mae mwy o opsiynau iaith ar gael ar gais. Gall y sefydliadau a grybwyllir trwy'r taflenni ffeithiau a'n tudalennau gwe ddarparu gwybodaeth fanwl bellach.

Mae Cyfeiriadur o gefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i ofalwyr ym Mro Morgannwg ar gael gan Wasanaethau Gwirfoddol Morgannwg.

Dilynwch ni