Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n Iach y Gaeaf Hwn

 

Gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu os ydych mewn poen neu’n poeni am gyflwr. Gwiriwch amseroedd agor eich meddyg teulu dros y Nadolig rhag ofn y bydd angen i chi gysylltu â nhw. I gysylltu â gwasanaeth y tu allan i oriau, ffoniwch GIG 111 Cymru.

Archebwch unrhyw bresgripsiynau rheolaidd ymlaen llaw i sicrhau bod gennych ddigon dros gyfnod y Nadolig. Bydd rhai fferyllfeydd ar agor am gyfnodau cyfyngedig dros wyliau’r banc neu gallant fod ar gau yn gyfan gwbl. Gallwch gael rhai presgripsiynau brys a fydd yn ddigon am bum diwrnod. Bydd hyn yn bosibl dim ond os yw’n argyfwng gwirioneddol, os nad yw’n gyffur rheoledig (e.e. morffin, pethidin, methadon), os ydych yn mynd i’r fferyllfa yn bersonol ac os yw’n amhosibl gweld eich meddyg teulu. Noder – efallai y codir tâl am hyn. Chwiliwch am eich fferyllfa leol ac edrychwch ar yr amseroedd agor.

Os nad oes gennych ddeintydd neu os ydych yn dioddef poen dannedd neu drawma y tu allan i oriau, ffoniwch CAF 24/7 i gysylltu â’r Llinell Gymorth Ddeintyddol Frys ar 0300 10 20 247.

Os ydych yn treulio amser oddi cartref y Nadolig hwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn pacio digon o feddyginiaeth. Mae hefyd yn bwysig darganfod pa wasanaethau iechyd (gan gynnwys meddygon teulu y tu allan i oriau) sydd ar gael yn yr ardal rydych chi’n ymweld â hi.

Mae rhai meddyginiaethau y gallwch eu cadw gartref rhag ofn y byddwch yn dioddef o fân anhwylder neu salwch fel annwyd, pen tost neu ddolur rhydd. Gwnewch yn siŵr bod meddyginiaethau bob amser yn cael eu storio mewn man diogel, allan o gyrraedd plant. 

Mae meddyginiaethau i’w cadw gartref yn cynnwys: 

  • diferion llygaid 
  • gwrthasid 
  • paracetamol, asbrin ac ibuprofen 
  • tabledi a hufen gwrth-histamin 
  • chwistrellau trwyn 
  • losin llwnc tost a pheswch 
  • hufen antiseptig 
  • plasteri 
  • thermomedr 

Mae’n bwysig eich bod bob amser yn darllen y taflenni gwybodaeth ar gyfer pob meddyginiaeth ac yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y pecynnau. Peidiwch â chymryd mwy na’r dos a nodwyd. Mae gan feddyginiaethau ddyddiad dod i ben, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r dyddiadau cyn eu defnyddio ac os yw’r dyddiad ‘defnyddio olaf’ wedi bod, prynwch rai newydd. Gallwch fynd â meddyginiaethau i’ch fferyllfa i gael gwared arnynt yn ddiogel. 

Dysgwch fwy am bob un o’r meddyginiaethau hyn ac ar gyfer beth y gellir eu defnyddio ar wefan GIG 111 Cymru.  

P’un a ydych chi’n coginio gartref y Nadolig hwn, neu’n ailddefnyddio bwyd sy’n weddill, mae’n bwysig cynnal hylendid bwyd da adeg y Nadolig trwy lanhau, oeri, coginio ac osgoi croes-halogi. 

Dysgwch fwy am hylendid bwyd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Os ydych chi’n cael gwenwyn bwyd, fel arfer gallwch chi drin eich hun neu’ch plentyn gartref. Dysgwch fwy ar wefan GIG 111 Cymru

Gallwch wirio faint o unedau sydd yn eich diodydd trwy ddefnyddio’r cyfrifiannell unedau alcohol. Peidiwch byth ag yfed a gyrru. Pan fyddwch allan, cadwch eich diod gyda chi bob amser, ceisiwch osgoi cerdded adref ar eich pen eich hun a chadwch eich eiddo personol yn agos atoch bob amser. 

Mae Heddlu De Cymru yn ein hannog i wneud y canlynol: 

  • Cadw llygad ar ffrindiau ac anwyliaid 
  • Aros gyda’n gilydd ar nosweithiau allan 
  • Peidio â gadael diodydd heb oruchwyliaeth 
  • Peidio â derbyn unrhyw ddiodydd na welsoch yn cael eu harllwys 
  • Cynllunio eich taith adref ymlaen llaw 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi llunio deuddeg o gynghorion Iechyd a Diogelwch i’ch cadw chi a’ch anwyliaid yn ddiogel.

Mae gwefan SilverCloud yn cynnig rhaglenni therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein ar gyfer pobl sy’n 16 oed ac yn hŷn, sydd â lefelau ysgafn neu gymedrol o iselder, gorbryder neu straen.

Mae cyrsiau am ddim ar ystod o bynciau iechyd meddwl a lles ar gael ar dudalennau’r Coleg Adfer a Lles.

Dysgwch am Gyrsiau Mynediad Agored sydd ar gael drwy wefan Stepiau, gyda phynciau’n amrywio o straen, i dderbyn a thosturi.

Mae'r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru yn cynnig chwe rhestr chwarae sy'n eich cyfeirio at ystod eang o adnoddau ar-lein i'ch helpu yn ystod y cyfyngiadau symud a thu hwnt, ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed.

Edrychwch ar gyfres o 23 o ganllawiau hunangymorth ar wefan Stepiau, sy’n gam cyntaf defnyddiol i ddeall eich meddyliau a’ch teimladau sy’n ymwneud â phynciau iechyd meddwl gwahanol.

Mae nifer o grwpiau lleol y gallwch gysylltu â nhw i gael cymorth ychwanegol.

Mae Mind Caerdydd a Mind ym Mro Morgannwg yn cynnig gwasanaethau cwnsela a gwasanaethau eraill.

Gellir cysylltu â'r Samariaid — Caerdydd a'r Cylch 24/7 dros y ffôn, e-bost, llythyr neu drwy eu Ap Hunangymorth.

Mae symptomau’n amrywio’n sylweddol ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl gwahanol, ond yma ceir rhai arwyddion ehangach y gallai fod angen cymorth arnoch gan eich meddyg teulu:

  • paranoia, gofid neu orbryder gormodol
  • tristwch neu natur flin sy’n barhaus
  • newidiadau eithafol mewn hwyliau
  • mynd i’ch cragen o safbwynt cymdeithasol
  • newidiadau mawr mewn patrymau cysgu neu fwyta

 

Mae gweld eich meddyg teulu yn gam pwysig er mwyn cael y cymorth iawn. Pan fyddwch yn siarad â’ch meddyg teulu, dylech fod mor agored a gonest â phosibl am sut rydych chi’n teimlo - bydd hyn yn caniatáu i’ch meddyg teulu ddeall eich profiadau yn llawn a sicrhau eich bod yn cael yr help iawn. Mae croeso i chi ddod ag aelod o’r teulu neu ffrind gyda chi i’ch cefnogi os credwch y bydd yn helpu.

Mae gan bob ysgol yn ein hardal fynediad at nyrs ysgol a chwnselydd, sy'n gallu cefnogi plant a phobl ifanc.

Mae’r Gwasanaeth ChatHealth hefyd ar gael i bobl ifanc rhwng 11-19 oed yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Gallwch anfon neges destun at eich nyrs ysgol ar 07520 615718 i gael cyngor a chymorth cyfrinachol.

Mwy o wybodaeth am gymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc.

Dilynwch ni