23 Hydref 2026
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn falch iawn bod y tîm Ffiseg Meddygaeth Niwclear, sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, wedi derbyn canmoliaeth uchel yn y wobr Rhagoriaeth mewn Diagnosteg yng Ngwobrau AHA Cymru yr wythnos diwethaf.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r tîm wedi trawsnewid y ffordd y mae cleifion yn cael eu profi am gamamsugniad asid bustlog, gan leihau amseroedd aros o tua dwy flynedd i lai na dau fis, gwella cyfraddau presenoldeb a chreu profiad gwell i gleifion.
Mae camamsugniad asid bustlog yn gyflwr sy'n achosi dolur rhydd cronig. Tan y llynedd, roeddy tîm Ffiseg Meddygaeth Niwclear yn defnyddio darn prin o offer meddygol o'r enw Mesurydd Corff Cyfan i wneud diagnosis o'r cyflwr. Gosodwyd y Mesurydd Corff Cyfan yn yr ysbyty ym 1967. Er mwyn gwneud diagnosis, roedd cleifion yn cael sganiau 45 munud y tu mewn i'r siambr ddur gaeedig ar ddau achlysur ar wahân dros gyfnod o bythefnos.
Dywedodd Rachel Bidder, Pennaeth Ffiseg Meddygaeth Niwclear: “Roedd y Mesurydd Corff Cyfan yn darparu mesuriadau ymbelydredd hynod sensitif, ond gallai natur gyfyng y sganiwr wneud y profiad yn llai cyfforddus i rai cleifion.”
Mae cleifion sy'n cael y prawf yn llyncu capsiwl sy'n cynnwys ychydig bach o ddeunydd ymbelydrol. Maent yn cael eu sganio am ddarlleniad llinell sylfaen ac yna'n dychwelyd ar ôl saith diwrnod am ail sgan. Drwy fesur faint o'r sylwedd sy'n weddill yn y corff, gall gwyddonwyr clinigol benderfynu a yw'n debygol bod y claf yn dioddef o gamamsugniad asid bustlog.
Roedd y broses brofi hir, ynghyd â nifer uchel o apwyntiadau a fethwyd, yn golygu bod amseroedd aros wedi dod yn anghynaladwy. Dim ond chwech o gleifion y gallai'r gwasanaeth eu derbyn fesul sesiwn, a chydag apwyntiadau'n cael eu methu, daeth hynny'n dri neu bedwar. Roedd tua 200 o gleifion ar y rhestr aros, ac roedd atgyfeiriadau'n cymryd hyd at ddwy flynedd i'w cwblhau. Yn ogystal, roedd pob apwyntiad a fethwyd hefyd yn golygu'r risg o wastraffu capsiwl a oedd yn costio tua £300 yr un, ac yn para am amser cyfyngedig.
Yn benderfynol o wella'r gwasanaeth, gweithiodd y tîm Ffiseg Meddygaeth Niwclear yn agos gyda chydweithwyr yn yr adran Radioleg i ddod o hyd i ddull newydd.
Mae cleifion bellach yn cael eu sganio gan ddefnyddio camera gama yn yr adran Radioleg. Mae'r sganiau'n cymryd tua phum munud ac yn cael eu cynnal mewn amgylchedd mwy agored a llai brawychus.
Ochr yn ochr â'r broses sganio newydd, cyflwynodd y tîm system drefnu apwyntiadau fwy rhagweithiol hefyd. Mae staff gweinyddol yn cysylltu â phob claf cyn eu hapwyntiad, gan eu helpu i baratoi ar gyfer y prawf a sicrhau eu bod yn gallu mynychu.
Dywedodd Amie Roberts, Dirprwy Bennaeth Ffiseg Meddygaeth Niwclear: “Mae'r grŵp hwn o gleifion yn aml yn byw gyda dolur rhydd cronig, felly mae symud o sgan 45 munud mewn ystafell ynysig o fewn lle cyfyng i sgan pum munud mewn amgylchedd mwy agored wedi lleihau'r pryder y mae cleifion yn ei brofi i raddau helaeth.”
Mae'r newidiadau wedi trawsnewid y gwasanaeth. Gall y tîm nawr brofi hyd at 25 o gleifion mewn sesiwn, gan leihau amseroedd aros o tua dwy flynedd i lai na dau fis. Maen nhw'n gobeithio lleihau hyn ymhellach fyth i tua phedair wythnos.
Mae hyn wedi lleihau nifer yr apwyntiadau a fethwyd yn sylweddol, gan helpu'r tîm i wneud y defnydd gorau o'r apwyntiadau sydd ar gael a lleihau gwastraff y capsiwlau arbenigol a ddefnyddir yn y prawf.
Dywedodd Charlie Willis, Arweinydd y Tîm Technegol a Radiograffydd Arolygol: “Mae'r tîm cyfan yn rhan o'r gwasanaeth, o'r gwyddonwyr clinigol, y technegwyr clinigol, y radiograffwyr i'r staff gweinyddol a'r gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae pawb wedi cyfrannu rywle ar hyd y ffordd.”
Credir bod y Mesurydd Corff Cyfan yn un o ddim ond dau sy'n dal i weithio yn y DU. Er gwaethaf ei oedran, mae'n parhau i gael ei ystyried fel y safon aur am ei allu i ganfod ymbelydredd. Er nad yw'n cael ei ddefnyddio mwyach ar gyfer y profion hyn, bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio mewn ymchwil ac mae'n rhan o gynllunio wrth gefn.
I Rachel, mae cael canmoliaeth uchel yn gydnabyddiaeth o'r ymdrech ar y cyd y tu ôl i'r prosiect. Dywedodd: “Mae'n gydnabyddiaeth o'r hyn y gall tîm ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd. Ni allai un person fod wedi cyflawni hyn. Mae pawb wedi chwarae rhan wrth greu gwasanaeth gwell i'n cleifion.”
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.