Neidio i'r prif gynnwy

Nodyn atgoffa i wirio statws MMR eich plentyn wrth i achos o'r frech goch gael ei ddatgan yng Ngwent

9 Ebrill 2024

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ymchwilio i ddau achos arall o'r frech goch sydd wedi'u cadarnhau yn ardal Gwent, gan ddod â'r cyfanswm cyffredinol i bedwar achos unigol. 

Mae cysylltiad rhwng y pedwar achos unigol gan iddynt fynd i leoliad gofal iechyd ar 21 Mawrth, ac felly mae brigiad o achosion wedi'i ddatgan. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi cysylltiadau'r achosion unigol, ac yn rhoi cyngor i'w rhieni ar ba gamau i'w cymryd a gwybodaeth am arwyddion a symptomau'r frech goch.  Mae'r ddau glaf yn derbyn gofal priodol. 

Meddai Beverley Griggs, Ymgynghorydd mewn Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chadeirydd y Tîm Rheoli Achosion Amlasiantaeth:  “Mae'r frech goch yn glefyd heintus iawn ac mae'r achosion unigol wedi bod yn cynyddu ar draws y DU ac Ewrop yn ystod y misoedd diwethaf, felly nid yw'r datblygiad hwn yn annisgwyl. 

“O ganlyniad i dystiolaeth glir o ledaeniad o'r achos cychwynnol, rydym wedi datgan brigiad o achosion o'r frech goch yn ardal Gwent. 

“Rydym yn nodi cysylltiadau pob achos unigol a byddwn yn cysylltu â nhw i ddarparu cyngor ar symptomau a pha gamau i'w cymryd os oes angen iddynt geisio cyngor meddygol. Pan na fydd cysylltiadau wedi'u himiwneiddio, byddwn hefyd yn gofyn iddynt beidio â mynd i'r feithrinfa, lleoliad addysg neu leoliadau risg uchel eraill. Mae hwn yn gam gweithredu iechyd cyhoeddus arferol er mwyn helpu i atal achosion unigol pellach o'r frech goch yn y rhai sydd fwyaf mewn perygl. 

“Gall rhieni sy'n pryderu am iechyd eu plentyn wirio'r symptomau ar wefan GIG 111. Os oes gan eich plentyn dwymyn a brech, mae'n bwysig iawn eich bod yn ffonio cyn cyrraedd, neu rhowch wybod i'r staff ar unwaith pan fyddwch yn cyrraedd eich meddygfa neu leoliad gofal iechyd arall, fel y gellir eu hynysu'n brydlon ac osgoi unrhyw drosglwyddiad pellach.” 

Gellir atal y frech goch drwy'r  brechlyn MMR hynod effeithiol a diogel. Mae risgiau peidio â chael eich brechu – i chi eich hun ac i eraill sy'n agored i niwed gan gynnwys babanod, menywod beichiog nad ydynt wedi cael y  brechlyn, pobl hŷn a'r rhai sydd â systemau imiwnedd gwannach.

Os ydych yn byw yng Nghaerdydd a’r Fro ac yn ansicr a yw eich plentyn wedi cael y brechlyn MMR, fe’ch anogir i wirio cofnod iechyd personol y plentyn (llyfr coch) yn y lle cyntaf. Os ydych yn parhau i fod yn ansicr, mae opsiynau eraill yn cynnwys:

  • Cysylltu â’r Tîm Iechyd Plant Lleol ar 02921 836926 neu 02921 836929
  • Cysylltu â’ch Practis Meddyg Teulu, gan osgoi adegau mwyaf prysur y dydd, fel boreau cynnar, lle bo modd.

Opsiynau eraill o ran ble i gael brechiad MMR:

  • Eich Practis Meddyg Teulu
  • Eich Canolfan Brechu Torfol leol. Ffoniwch 02921 841234. Mae ein llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.

Os hoffech drafod unrhyw beth yn ymwneud â’r brechlyn, cysylltwch â’r Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgolion ar 02921847661/664 neu e-bostiwch Immunisation.CAVUHBschoolnursing@wales.nhs.uk

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn MMR, gan gynnwys sut i wirio eich statws brechu yn eich ardal leol ewch i: Y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela (MMR) - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)   

Dilynwch ni