Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr prifysgol blwyddyn gyntaf yn cael eu hannog i gael y brechlyn MenB

11 Medi 2026

Mae myfyrwyr dan 25 oed sy'n dechrau eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn cael cynnig brechlyn i'w hamddiffyn rhag meningitis B (MenB).

Yn gynharach eleni, lansiodd Llywodraeth y DU raglen frechu frys i amddiffyn pobl ifanc rhag MenB, haint bacterol sy'n gallu achosi salwch difrifol, gan gynnwys llid yr ymennydd, septisemia a sepsis.

Roedd hyn yn dilyn brigiad o achosion difrifol o glefyd meningococol ymledol yng Nghaint sydd hyd yn hyn wedi arwain at 21 o achosion wedi'u cadarnhau a dwy farwolaeth.

Mae myfyrwyr sy'n dechrau yn y brifysgol fel myfyrwyr israddedig am y tro cyntaf mewn mwy o berygl o haint MenB gan eu bod yn cymysgu mwy â phobl ac yn byw mewn llety a rennir.

Ym mis Medi a mis Hydref, bydd tîm brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ymweld ag amrywiaeth o leoliadau addysg uwch neu addysg bellach breswyl i gynnig y brechiad MenB i fyfyrwyr.

Rhoddir y brechlyn fel dau ddos, pedair wythnos ar wahân, i sicrhau amddiffyniad llawn.

Dyma restr o'r holl glinigau brechu galw heibio sy'n cael eu cynnal. Does dim angen apwyntiad - galwch heibio:

Institution

Date

Time

Clinic location

University of South Wales

15-17 September 2026

10am-4pm

 

Room CAC06, University of South Wales, Atrium Campus, 68-88 Adam Street, Cardiff, CF24 2FN

13-15 October 2026

Cardiff Metropolitan University

18 September 2026

10am- 4pm

 

Main corridor, C Block Cyncoed CF23 6XD

21 September 2026

Llandaff Campus - Allied Health Care Hub A block CF5 2YB

 

22 September 2026

Main corridor, C Block Cyncoed Campus CF23 6XD

 

16 October 2026

Main corridor, C Block Cyncoed CF23 6XD

 

19 October 2026

Llandaff Campus - Allied Health Care Hub A block CF5 2YB

 

20 October 2026

Main corridor, C Block Cyncoed Campus CF23 6XD

 

Cardiff University

23 September 2026

10am- 4pm

Room 1.28 and 1.29, Centre for Student Life, Park Place, Cathays, CR10 3BB

24 September 2026

28 September 2026

2 October 2026

Second Floor, Cardigan House, Heath Park Campus, University Hospital of Wales, CF14 4XW

21 October 2026

Room 1.28 and 1.29, Centre for Student Life, Park Place, Cathays, CR10 3BB

22 October 2026

26 October 2026

30 October 2026

Second Floor, Cardigan House, Heath Park Campus, University Hospital of Wales, CF14 4XW

Royal Welsh College of Music & Drama

 

25 September 2026

10am-4pm

The Foyle Dressing Room, RWCMD, North Road Cardiff, CF10 3ER

 

28 October 2026

 

Dywedodd Dr Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd yn BIP Caerdydd a'r Fro: “Mae dechrau yn y brifysgol yn gyfnod cyffrous, ac mae cael eich brechlyn meningitis B yn ystod Wythnos y Glas yn gam syml ond pwysig i'ch helpu i amddiffyn eich hun. Gall meningitis B ddatblygu'n gyflym iawn a gall achosi salwch difrifol, gan gynnwys llid yr ymennydd a sepsis, gyda chanlyniadau a allai newid bywyd neu fod yn angheuol.

“Gall myfyrwyr sy'n byw ac yn cymdeithasu'n agos at ei gilydd fod mewn mwy o berygl o ledaenu bacteria meningococol, felly mae cael y brechlyn pan gaiff ei gynnig yn ffordd bwysig o leihau'r risg honno.

“A does dim rhaid iddo fod yn rhwystr i fwynhau dechrau bywyd prifysgol - mae cael eich brechu yn ystod Wythnos y Glas yn golygu y gallwch chi wneud y cam iechyd pwysig hwn wrth i chi ymgartrefu, cwrdd â phobl newydd a manteisio i'r eithaf ar bopeth sydd gan y brifysgol i'w gynnig.”

Mae'r brechlyn MenB ar gael i'r rhai a aned ar neu ar ôl 21/07/2001 (sy'n troi'n 25 ar neu ar ôl 21/07//2026) ac sy'n mynychu addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf o dymor yr hydref 2026. Dewch â thystiolaeth eich bod yn fyfyriwr israddedig yn eich blwyddyn gyntaf, er enghraifft eich llythyr cynnig.

Mae'r brechiad MenB hefyd yn cael ei gynnig i bawb 17 a 18 oed a aned rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni