Neidio i'r prif gynnwy

Meddwl Cymraeg - Flwyddyn yn Ddiweddarach

Logo Meddwl Cymraeg

Heddiw yw Diwrnod Hawliau’r Gymraeg, sy'n nodi blwyddyn ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro lansio ei ymgyrch Meddwl Cymraeg.

Mae'r ymgyrch yn annog staff y sefydliad i feddwl am y Gymraeg, ac ystyried sut y gallant gyfrannu at wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch i siaradwyr Cymraeg, gydag uchelgais yn y pen draw o fod yn sefydliad cwbl ddwyieithog.

Dros y 12 mis diwethaf, mae'r Bwrdd Iechyd wedi cymryd nifer o gamau cadarnhaol i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ac i ddathlu diwylliant Cymru ar draws y sefydliad, gyda'r uchafbwyntiau yn cynnwys:

  • treialu pecyn derbyn i gynorthwyo staff mewn meysydd allweddol i nodi cleifion y mae'n well ganddynt siarad Cymraeg ac annog aelodau staff i ddefnyddio'r Gymraeg wrth siarad â nhw,
  • comisiynu wal murlun ddwyieithog ar ward ofod yr Ysbyty Plant i helpu cleifion ifanc sy'n siarad Cymraeg i deimlo'n fwy cyfforddus wrth ddefnyddio'r Gymraeg,
  • cyflwyno deunyddiau yn ein pencadlys yn Nhŷ Coetir gan ddarparu ymadroddion Cymraeg y gall staff eu defnyddio fel rhan o'u diwrnod gwaith,
  • lansio’r gwobrau Dydd Gŵyl Dewi cyntaf i gydnabod defnydd cynyddol staff o'r Gymraeg,
  • cynnydd yn y nifer y staff sydd wedi cofrestru i wneud cyrsiau Cymraeg drwy wefan LearnWelsh.
  • gweithio i wneud gwefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd a’r Elusen Iechyd yn hygyrch yn Gymraeg.

Mae Dr Mari Roberts yn anesthetydd pediatrig ymgynghorol yn Ysbyty Plant Arch Noa i Gymru, ac mae’n gweld mantais defnyddio'r Gymraeg yn rheolaidd wrth siarad â chleifion fel rhan o'i rôl.

Dywed Dr Roberts: “Yn eitha amal pan dwi’n mynd lawr i weld y teulu a bydd y plentyn yn cuddio wrtho fi ac yn meddwl “Pwy yw’r person dierth yma?”, ond pryd dwi’n dechrau siarad Cymraeg mae nhw yn gwenu ac yn teimlo yn lot mwy hapus”

“Weithiau mae nhw yn cysylltu Saesneg gyda bobl bwysig a bobl dearth ac mae nhw yn teimlo yn llawer mwy hapusach felly mae’n haws wedyn gwneud perthynas gyda’r claf ac gwneud nhw’n deimlo yn hapus.”

“Fi’n meddwl bod yn bwysig bod y Gymraeg yn cael yr un sefyllfa yn y gweithle a’r Saesneg a dwi’n hoffi siarad gyda fy nghydweithwyr yn yr iaith Gymraeg a dwi’n meddwl bod yn bwysig i bobl dysgu’r iaith i bobl eraill.

“Mae na lot o bobl sydd yn gallu siarad ychydig ond ddim yn teimlo gyfforddus i wneud felly rydym yn hybu hynna hefyd.”

Dywed Rachel Gidman, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Diwylliant: “Fel un o’r prif sefydliadau ym mhrifddinas Caerdydd a’r cyffiniau, mae gennym gyfrifoldeb i fod yn rhagweithiol a hyrwyddo’r Gymraeg, ond hefyd i ddathlu treftadaeth a diwylliant y genedl.

“Rwy'n falch o'r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud dros y 12 mis diwethaf, ond mae gwaith sylweddol i’w wneud o hyd i gyflawni ein huchelgais pennaf o fod yn sefydliad cwbl ddwyieithog.

“Ar Ddiwrnod Hawliau'r Gymraeg, byddwn yn annog yr holl gleifion, staff a'r gymuned ehangach i hyrwyddo'r Gymraeg ble bynnag maen nhw'n gallu gwneud hynny, fel y gallwn fynd ati, gyda'n gilydd, i sicrhau twf a defnydd parhaus o’r Gymraeg, o fewn ein sefydliad ac ar draws Cymru.”

 

07/12/2021

Dilynwch ni