11 Tachwedd 2026
Cynhelir seremoni Gwobrau GIG Cymru yr wythnos hon ac mae tîm Ffisiotherapi Pobl Ifanc Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Gofal Mwy Diogel. Sefydlwyd y tîm ddwy flynedd yn ôl i drin pobl ifanc 13 i 16 oed sy'n profi poen yn y cymalau neu'r cyhyrau (cyhyrysgerbydol neu MSK) neu'n gwella o anaf.
Cyn cael tîm pwrpasol, roedd pobl ifanc 13 oed a hŷn yn cael eu trin o fewn Ffisiotherapi Oedolion. Doedd Sharon Hortop, Prif Ffisiotherapydd ar gyfer cyflyrau MSK Pediatrig ddim yn meddwl bod hyn yn iawn. “Roedd diffyg cyfatebiaeth,” meddai Sharon. “Yn Ysbyty’r Plant gallwch gael llawdriniaeth hyd at 16 oed, ond 13 oed oedd ein terfyn uchaf yn y gwasanaeth Ffisiotherapi Pediatrig. Yna byddai plant yn cael eu hatgyfeirio at ffisiotherapi oedolion, lle nad oedd y staff yn arbenigwyr mewn ffisiotherapi MSK pediatrig. Roedden ni’n meddwl, 'Gallwn ni wneud yn well na hyn.'”
Bedair blynedd yn ôl, dechreuodd Sharon eirioli dros y newid hwn, gan arwain at greu swydd newydd. Penodwyd Jessica Smith yn Ffisiotherapydd Arbenigol MSK i Bobl Ifanc, gan arwain gwasanaeth mwy pwrpasol ar gyfer y grŵp hwn o gleifion ochr yn ochr â Ffisiotherapydd Band 6 Alun Bonello a Ffisiotherapydd Band 5 Hannah Buchanon.
Mae'r tîm yn gweithio yn adeilad Glan-y-Llyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty'r Barri, gyda mannau pwrpasol wedi'u cynllunio i ddarparu amgylchedd diogel a chyfforddus i bobl ifanc. Mae'r gwasanaeth yn cydnabod bod pobl ifanc yn wahanol yn ffisiolegol ac o ran lefel aeddfedrwydd, ac yn wynebu pwysau gwahanol i blant iau ac oedolion.
Dywedodd Jessica: “Wrth weithio gyda phlant ddydd ar ôl dydd, rydych chi'n gwybod sut i esbonio termau meddygol a siarad ar eu lefel nhw. Hefyd, oherwydd bod gennym ni’r wybodaeth honno am gyflyrau pobl ifanc, efallai na fydd angen i ni weld y plant hyn gymaint â ffisiotherapydd a allai fod yn llai cyfarwydd â’u symptomau.” Dywedodd Sharon: “Rydym yn ymwybodol hefyd mai un o’r problemau mawr i gleifion yn eu harddegau yw colli ysgol, felly mae’r tîm yn gweithio oriau hirach gyda’r nos er mwyn gallu cynnig mwy o apwyntiadau ar ôl ysgol. Ychwanegodd Jess: “Os ydym yn rhoi ymarferion i blant a phobl ifanc, ein cyfrifoldeb ni yw eu helpu i ddod o hyd i ffyrdd o’u cynnwys yn eu trefn ddyddiol.”
Ers ei lansio, mae'r gwasanaeth wedi parhau i esblygu. Gall y tîm nawr gynnig clinigau ffisiotherapi a phodiatreg ar y cyd, sesiynau hydrotherapi i bobl ifanc a dosbarth Pilates i bobl ifanc. Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth Orthopedeg ac wedi sefydlu llwybrau ymatebol ar gyfer pobl ifanc y gallai fod angen triniaeth frys arnynt. Esboniodd Jessica: “Mae gennym ni lwybrau acíwt ymatebol iawn, lle weithiau mae plant wedi dod atom ac maen nhw wedi cael eu rhestru ar gyfer llawdriniaeth yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw oherwydd ein bod ni’n gallu gweithredu ar yr hyn rydyn ni wedi’i weld a’i amlygu drwy’r llwybr cywir.”
Mae'r gwasanaeth wedi derbyn llawer o adborth cadarnhaol gan bobl ifanc a'u teuluoedd, yn anffurfiol a thrwy sianeli adborth y Bwrdd Iechyd.
Mae'r tîm wrth eu bodd o gael eu cynnwys ar y rhestr fer ac yn edrych ymlaen at y seremoni. Dywedodd Jess: “Mae’n wych cael cydnabyddiaeth ein bod ni’n gwneud gwaith da, ac i allu rhannu ein profiad a dangos bod hwn yn fodel gwaith llwyddiannus.” Ychwanegodd Sharon: “Yn fy marn i, drwy sicrhau bod y grŵp hwn yn cael ei drin gan y bobl iawn ar yr amser iawn, rydym yn helpu i roi dyfodol iachach iddynt a lleihau eu dibyniaeth ar ofal iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd.”
“Hoffwn ddiolch i’r holl dîm am ein harwain ni i’r pwynt hwn gan gynnwys Sarah Kidd a Bev Williams, ein cymorth gweinyddol, Cerian Lewis ac Isabelle Nevitt, a oedd wedi gweithio ar y prosiect gyda Jessica yn flaenorol, ac yn awr Alun a Hannah. Mae eich cyfraniadau i gyd wedi bod yn amhrisiadwy.”
Llun, chwith i’r dde: Jessica Smith, Ffisiotherapydd Arbenigol MSK i Bobl Ifanc, Sharon Hortop, Prif Ffisiotherapydd ar gyfer cyflyrau MSK Pediatrig, Hannah Buchanan Ffisiotherapydd Band 5
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.