Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth ailgylchu yn apelio ar bobl i ddychwelyd cymhorthion cerdded nad oes eu hangen mwyach

22 Ebrill 2026

Y llynedd, adnewyddodd Cynllun Ailgylchu Cymhorthion Cerdded y Bwrdd Iechyd gyfanswm o 4,563 o gymhorthion cerdded, gan sicrhau bod cleifion ledled Caerdydd a Bro Morgannwg yn gallu eu hailddefnyddio. Yn 2026, maen nhw'n awyddus i wella cyfraddau dychwelyd ac ailgylchu mwy o offer.

Mae'r cynllun, sy'n cael ei gefnogi gan Wasanaeth Prawf lleol Ei Fawrhydi, yn adnewyddu fframiau cerdded, baglau a ffyn cerdded. Y llynedd, drwy ailgylchu'r offer hwn, arbedodd y Bwrdd Iechyd £72,000 ac ataliodd fwy na 192k tunnell o allyriadau carbon CO2E (sy'n cyfateb i yrru car diesel o amgylch y cyhydedd 11 gwaith).

Yn hollbwysig, helpodd y cynllun hefyd i sicrhau bod cleifion yn derbyn cymhorthion cerdded ar adeg pan roeddent eu hangen. Y llynedd, pan wnaeth cyflenwr fframiau cerdded arbenigol roi’r gorau i gynhyrchu, roedd perygl y byddai oedi i’r broses o ryddhau cleifion oherwydd bod yr offer hwn yn brin. Llwyddodd y cynllun ailgylchu i lenwi'r bwlch, gyda llif cyson o stoc wedi'i adnewyddu yn galluogi cleifion oedd angen yr offer arbenigol hwn i gael eu rhyddhau'n ddiogel a dychwelyd adref.

Cafodd y Cynllun Ailgylchu Cymhorthion Cerdded ei gychwyn, ac mae bellach yn cael ei reoli, gan y Technegydd Ffisiotherapi Rob Skellett. Yn 2026 mae Rob yn awyddus i wella cyfraddau dychwelyd ac ailgylchu mwy o offer.

Dywedodd: “Rydym yn apelio ar y gymuned leol i ddychwelyd unrhyw gymhorthion cerdded sydd mewn cyflwr da. Er mwyn ceisio cynyddu cyfraddau dychwelyd rydym yn dechrau prosiect bach ym mis Ebrill yn labelu'r holl offer gyda chodau QR sy'n cysylltu â gwybodaeth am ble a sut i ddychwelyd eich offer. Rydym yn gobeithio sicrhau cynnydd o 20% mewn cyfraddau dychwelyd eleni drwy gyflwyno hyn.”

Fel rhan allweddol o'r cynllun, mae Rob yn hyfforddi goruchwylwyr prawf i lanhau offer yn ôl safonau Atal a Rheoli Heintiau (IP&C). Yna mae'r goruchwylwyr yn hyfforddi pobl ar brawf i archwilio ac adnewyddu'r cymhorthion cerdded. Pan fydd darn o offer yn cael ei ddychwelyd, byddant yn cynnal gwiriad diogelwch i sicrhau ei fod yn addas i’w ailgylchu. Os yw'n ddiogel, caiff ei lanhau yn unol â safonau IP&C a'i baratoi i'w ailddefnyddio.

“Ynghyd â staff hyfforddedig y Bwrdd Iechyd a Gwasanaeth Prawf lleol EF, rydym yn arwain y ffordd yng Nghymru drwy ‘wneud y peth iawn’ wrth lanhau, gwirio diogelwch ac adnewyddu’r offer hwn, yn ogystal â darparu gwaith ystyrlon, darparu gwerth cymdeithasol ac yn bwysicaf oll gwneud cymhorthion cerdded yn fwy hygyrch i gleifion.”

Mae Rob hefyd yn awyddus i rannu'r hyn a ddysgwyd o'r cynllun yn ehangach ar draws GIG Cymru. Dywedodd: “Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwalader yn ddiweddar, gan eu helpu i sefydlu prosiect ailgylchu tebyg gan weithio gyda’u gwasanaeth prawf lleol.

Ar hyn o bryd mae tua 50% o gymhorthion cerdded yn cael eu dychwelyd gan gleifion, ond mae lle i wella.

Gellir dychwelyd cymhorthion cerdded i safleoedd penodol ledled Caerdydd a'r Fro. Mae rhestr lawn o leoliadau lle gallwch eu dychwelyd a rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni