Neidio i'r prif gynnwy

Dros 1,300 o fonitorau pwysedd gwaed wedi'u benthyg o lyfrgelloedd a hybiau yng Nghaerdydd a'r Fro

3 Gorffennaf 2026 

Mae cynllun arloesol sy'n caniatáu i bobl fenthyg monitorau pwysedd gwaed am ddim o lyfrgelloedd lleol yn helpu trigolion ledled Caerdydd a Bro Morgannwg i gymryd rheolaeth dros eu hiechyd a chanfod a rheoli problemau posibl yn gynharach.

Wedi'i lansio yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2025, mae'r fenter yn galluogi trigolion i fenthyg monitorau pwysedd gwaed sydd wedi'u dilysu'n glinigol o lyfrgelloedd a hybiau cymunedol, yn union fel benthyg llyfr. Mae'r cynllun wedi bod yn hynod boblogaidd, gyda dros 1,300 o fenthyciadau wedi'u cofnodi ledled Caerdydd a Bro Morgannwg hyd yn hyn.

Mae pwysedd gwaed uchel yn un o brif achosion trawiad ar y galon, strôc a chlefydau cardiofasgwlaidd eraill. Caiff ei adnabod yn aml fel y “llofrudd tawel”, gan nad oes symptomau bob amser, sy'n golygu nad yw llawer o bobl yn ymwybodol ei fod ganddynt. Amcangyfrifir bod miloedd o bobl yng Nghymru yn byw gyda phwysedd gwaed uchel heb ddiagnosis. 

Datblygwyd y cynllun trwy bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a gwasanaethau llyfrgell y cyngor lleol, gyda'r nod o wneud monitro pwysedd gwaed yn haws ac yn fwy hygyrch i bawb. Drwy gael gwared ar y gost o brynu monitor a darparu canllawiau clir ar ystyr darlleniadau, mae'r rhaglen yn cefnogi pobl i fonitro eu hiechyd o gysur eu cartrefi eu hunain.

Mae'r niferoedd sydd wedi manteisio ar y cynllun wedi bod ar eu huchaf mewn cymunedau â chyfraddau uchel o amddifadedd economaidd-gymdeithasol ac iechyd gwael cyffredinol, felly mae'r cynllun hwn yn helpu i leihau anghydraddoldebau drwy wella mynediad at ofal iechyd ataliol ymhlith y rhai a allai fod ei angen, ac a allai elwa ohono, fwyaf.

Mae adborth gan ddefnyddwyr wedi bod yn gadarnhaol, gyda phobl yn nodi eu bod yn fwy hyderus wrth fonitro eu pwysedd gwaed a deall pryd i ofyn am gyngor. Nod y cynllun yw helpu i nodi achosion o bwysedd gwaed uchel sydd heb gael diagnosis blaenorol, gan leihau'r angen am wiriadau pwysedd gwaed rheolaidd mewn meddygfeydd teulu.

Dywedodd Dr Richard Baxter, arweinydd gwella ansawdd meddygon teulu yn BIP Caerdydd a'r Fro: “Yn aml nid oes unrhyw symptomau os oes gennych bwysedd gwaed uchel, felly mae ei wirio'n rheolaidd yn un o'r pethau gorau y gallwch chi ei wneud er budd eich iechyd. 

“Os ydych chi'n poeni am eich pwysedd gwaed, does dim angen trefnu apwyntiad gyda meddyg teulu ar unwaith. Yn lle hynny, cymerwch eich pwysedd gwaed gartref pan fyddwch chi wedi ymlacio a dilynwch y canllawiau a ddarperir gyda'r monitor. Os yw eich darlleniadau'n gyson o fewn yr ystod arferol, gallwch rannu'r rhain gyda'ch meddyg teulu os oes angen. Os yw eich darlleniadau'n uchel, ailadroddwch y darlleniadau dros o leiaf wythnos a chysylltwch â'ch meddyg teulu os ydynt yn parhau i fod yn uchel. Mae'r cynllun hwn yn ei gwneud hi'n haws i bobl wirio eu pwysedd gwaed yn gywir gartref a gofyn am gyngor meddygol pan fo angen.”

Gall trigolion fenthyg monitor am ddim o lyfrgelloedd sy'n cymryd rhan ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Gallwch ddod o hyd i'ch hyb neu lyfrgell agosaf yng Nghaerdydd yma ac yn y Fro yma.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni