Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i garfan myfyrwyr 2024 Project SEARCH

Yr wythnos diwethaf croesawodd BIP Caerdydd a'r Fro y garfan newydd o fyfyrwyr drwy raglen cyn-gyflogaeth Project SEARCH.

Mae naw myfyriwr wedi ymuno â'r bwrdd iechyd - pump yn llawn amser a phedwar yn rhan amser - a byddant yn gweithio mewn amrywiaeth o feysydd ar draws y bwrdd iechyd dros y flwyddyn nesaf i ennill sgiliau a phrofiad.

Ymhlith yr adrannau y byddant yn gweithio ynddynt mae patholeg gellog, cadw tŷ, cofnodion meddygol, ac addysg, diwylliant a datblygu sefydliadol.

Mae Project SEARCH yn rhaglen cyn-gyflogaeth unigryw sy'n helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu i ennill y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael swyddi ystyrlon â thâl.

Mae’n rhaglen pontio i waith ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 – 24 oed, gan weithio ar y cyd â chynghorau ac ysgolion lleol i gyflawni’r prosiect. 

Croeso i garfan newydd Project SEARCH a dymunwn y gorau i chi yn ystod eich amser gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Os ydych yn rheolwr ac yn dymuno cymryd rhan yn y rhaglen drwy gynnig eich ardal fel lleoliad, cysylltwch â nicky.punter@wales.nhs.uk.

Dysgwch fwy am Project SEARCH yma: DFN Project Search - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (nhs.wales)

Enillodd y prosiect Wobr Menter Amrywiaeth a Chynhwysiant yng Ngwobrau Adnoddau Dynol Prydain eleni. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Cydnabyddiaeth i BIPCAF yng Ngwobrau Adnoddau Dynol Prydain - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (nhs.wales)

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni