Neidio i'r prif gynnwy

Côr sy'n Gyfeillgar i Affasia yn perfformio eu cân newydd am y tro cyntaf.

 I lawer ohonom; mae siarad am gyflwr iechyd yn gallu bod yn frawychus, ond mae canu amdano bron yn amhosibl. Ond dyna'n union beth mae Côr Cyfeillgar i Affasia Caerdydd a'r Fro wedi'i wneud. 

Y grŵp yw'r côr adsefydlu cyntaf yng Nghymru a dechreuodd yn 2019 fel y côr sy'n gyfeillgar i affasia i gleifion mewnol. Y nod oedd dod â phobl ynghyd i ganu ond hefyd i ddatblygu ymwybyddiaeth ehangach o affasia ac anawsterau cyfathrebu sy'n gysylltiedig â niwroleg o fewn ein cymunedau.  

Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Esther Goodhew, Therapydd Iaith a Lleferydd (SLT) sy'n gweithio yng Ngwasanaeth Niwro Cymunedol Byw'n Dda ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Vicky Guise, Therapydd Cerddoriaeth Niwrolegol o Chroma a Katie Earing, SLT a Darlithydd o Brifysgol Met Caerdydd.

Siaradodd Esther am gael ei chyflwyno i Vicky gan un o'r Meddygon Ymgynghorol yn yr Adran Strôc. Dywedodd Esther, “Dechreuon ni archwilio sut i gyflwyno cerddoriaeth i’r broses o adsefydlu ein cleifion a chrëwyd y syniad o’r côr sy’n gyfeillgar i affasia.” 

Mae affasia yn anhwylder iaith cymhleth a all effeithio ar ddealltwriaeth, siarad, darllen, ysgrifennu a'n dealltwriaeth o rifau. Gall yr effaith hon ar gyfathrebu arwain at lai o gyfranogiad cymdeithasol, gan wneud i bobl deimlo’n ynysig. 

Ychwanegodd Vicky, “Mae sylfaen ymchwil gynyddol ynghylch sut y gall canu helpu pobl ag anawsterau cyfathrebu, gydag amrywiaeth o gyflyrau niwrolegol gan gynnwys ar ôl strôc, ond hefyd â chlefyd Parkinson a’r rhai sydd wedi profi anaf trawmatig i’r ymennydd.” 

Nod y côr yw gwella sgiliau cyfathrebu drwy ddod â phobl ynghyd i gyflawni nodau cyfathrebu therapiwtig drwy ganu, creu lle diogel â chymorth i feithrin hyder a darparu ymdeimlad o gymuned a pherthyn i'r rhai sydd ag anawsterau cyfathrebu. 

Dywedodd un cyfranogwr “Ers ymuno â’r côr, dwi wedi gallu gwneud ychydig o bethau ar yr un pryd, felly mae wedi fy helpu i yn bendant. Mae hefyd wedi caniatáu i mi feithrin hyder i ganu.” 

Gyda darn o gerddoriaeth a roddwyd yn garedig i'r côr, a chymorth y Canwr-Ysgrifennwr Richard F. Jackson, dechreuodd y grŵp ysgrifennu geiriau sy'n cyfleu sut brofiad yw byw gydag anawsterau cyfathrebu a'r hyn yr hoffent i eraill ei wybod am eu profiadau. 

Perfformiodd y côr ' Give Me Time' am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.  

Mae'r Côr sy'n Gyfeillgar i Affasia wedi'i leoli yn yr adran Therapi Iaith a Lleferydd (SLT) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae'n brosiect cydweithredol rhwng y Gwasanaeth Niwro Cymunedol Byw'n Dda, Chroma ac adran SLT Met Caerdydd ac mae'n cael ei ariannu'n hael gan y Tavistock Trust for Aphasia. 

Gallwch wrando ar 'Give Me Time' yma.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni