24 Mehefin 2026
Mae pobl hŷn a menywod beichiog yn cael eu gwahodd i fynychu clinigau galw heibio ar gyfer brechlyn RSV ym mis Gorffennaf eleni.
Mae'r Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) yn haint feirysol cyffredin iawn sy'n lledaenu'n hawdd rhwng pobl ac yn aml yn arwain at annwyd cas neu haint ysgafn ar y frest.
Ond mewn oedolion hŷn a babanod, gall arwain at broblemau mwy difrifol fel problemau anadlu difrifol, yn enwedig ymhlith y rhai sy'n fregus neu sydd â chyflyrau iechyd eraill.
Yn yr achosion gwaethaf, gall RSV achosi niwmonia (haint ar yr ysgyfaint) neu hyd yn oed farwolaeth.
Ond mae wedi'i brofi bod y brechlyn RSV yn lleihau difrifoldeb yr haint a derbyniadau i'r ysbyty ymhlith pobl hŷn a babanod.
Mae'r sesiynau galw heibio – sydd ar gael i bobl dros 75 oed a menywod beichiog o 28 wythnos ymlaen – yn digwydd ar y dyddiadau canlynol yn y lleoliadau canlynol.
Nid oes angen trefnu apwyntiad - dewch draw:
-
Dydd Mercher, 1 Gorffennaf (9.15am i 4pm): Neuadd y Sgowtiaid Bay-Den, Heol Ferry, CF11 0XR
-
Dydd Iau, 2 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Neuadd Gymunedol Eglwys Sant Isan, Heol Hir, CF14 5AE
-
Dydd Iau, 2 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Canolfan Iechyd Glan yr Afon, Llys Treganna, Stryd Wellington, CF11 9SH
-
Dydd Gwener, 3 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Hyb Llesiant Maelfa, CF23 9PF
-
Dydd Sadwrn, 4 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Hyb Llesiant Maelfa, CF23 9PF
-
Dydd Sadwrn, 4 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Ysbyty'r Barri, Heol Colcot, CF62 8HY
-
Dydd Llun, 6 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Hyb Llesiant Maelfa, CF23 9PF
-
Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Ysbyty'r Barri, Heol Colcot, CF62 8HY
-
Dydd Mercher, 8 Gorffennaf (9.15am i 4pm): Neuadd Masonig Penarth, 55 Heol Stanwell, CF64 3LR
-
Dydd Iau, 9 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Neuadd Gymunedol Eglwys Sant Isan, Heol Hir, CF14 5AE
-
Dydd Gwener, 10 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Neuadd Gymunedol Eglwys Sant Isan, Heol Hir, CF14 5AE
-
Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Hyb Llesiant Maelfa, CF23 9PF
-
Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Ysbyty'r Barri, Heol Colcot, CF62 8HY
-
Dydd Llun, 13 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Hyb Llesiant Maelfa, CF23 9PF
-
Dydd Llun, 13 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Ysbyty'r Barri, Heol Colcot, CF62 8HY
-
Dydd Llun, 13 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Canolfan Iechyd Glan yr Afon, Llys Treganna, Stryd Wellington, CF11 9SH
-
Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Hyb Llesiant Maelfa, CF23 9PF
-
Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Ysbyty'r Barri, Heol Colcot, CF62 8HY
-
Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Canolfan Iechyd Glan yr Afon, Llys Treganna, Stryd Wellington, CF11 9SH
-
Dydd Mercher, 15 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Hyb Llesiant Maelfa, CF23 9PF
-
Dydd Mercher, 15 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Ysbyty'r Barri, Heol Colcot, CF62 8HY
-
Dydd Mercher, 15 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Canolfan Iechyd Glan yr Afon, Llys Treganna, Stryd Wellington, CF11 9SH
-
Dydd Iau, 16 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Ysbyty'r Barri, Heol Colcot, CF62 8HY
-
Dydd Iau, 16 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Canolfan Iechyd Glan yr Afon, Llys Treganna, Stryd Wellington, CF11 9SH
-
Dydd Gwener, 17 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Hyb Llesiant Maelfa, CF23 9PF
-
Dydd Gwener, 17 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Ysbyty'r Barri, Heol Colcot, CF62 8HY
-
Dydd Gwener, 17 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Canolfan Iechyd Glan yr Afon, Llys Treganna, Stryd Wellington, CF11 9SH
-
Dydd Sadwrn, 18 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Hyb Llesiant Maelfa, CF23 9PF
-
Dydd Sadwrn, 18 Gorffennaf (9.15am i 4.45pm): Ysbyty'r Barri, Heol Colcot, CF62 8HY
Dywedodd Victoria Whitchurch, Pennaeth Diogelu Iechyd a Chynhwysiant Iechyd: “Yn aml, caiff RSV ei gamgymryd am salwch tymhorol syml, ond i bobl hŷn a babanod newydd-anedig gall arwain at ganlyniadau difrifol iawn. Mae cael eich brechu yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau'r risg o salwch difrifol, arhosiad yn yr ysbyty a chymhlethdodau, felly rydym yn annog yn gryf i bawb sy'n gymwys i fanteisio ar y cynnig o frechlyn RSV am ddim.”
Dylai'r rhai sydd ag unrhyw ymholiadau ffonio tîm brechu Caerdydd a'r Fro ar 02921 841234.