10 Gorffenaf 2026
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn falch iawn o lansio'r Cynllun Gwasanaethau Clinigol, a fydd yn nodi'r weledigaeth a'r cyfeiriad hirdymor ar gyfer gwasanaethau clinigol a ddarperir ar draws BIP Caerdydd a'r Fro hyd at 2035.
Mae'r cynllun hwn wedi'i greu gyda chleifion, cydweithwyr, partneriaid a'n cymunedau i ailddychmygu sut olwg fydd ar ddyfodol gofal dros y deng mlynedd nesaf.
Mae'r cynllun wedi'i lunio trwy un o'n rhaglenni ymgysylltu mwyaf erioed, gyda miloedd o bobl o'r cyhoedd dros 20 wythnos a 13 wythnos arall o gyd-ddylunio gyda'n cydweithwyr a'n partneriaid i ystyried yr hyn a glywsom. Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth, rydym wedi nodi model gofal integredig sengl ar gyfer y dyfodol sy'n fwy cydgysylltiedig ac yn canolbwyntio mwy ar y person. Mae hyn yn golygu y byddwn yn dod â gwasanaethau ynghyd ar draws ysbytai, y gymuned, a rhwydweithiau rhanbarthol gan sicrhau eu bod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac yn galluogi pobl i fyw bywydau hirach ac iachach.
Mae nifer o gamau blaenoriaeth wedi'u nodi yn y cynllun ac rydym yn dechrau eu rhoi ar waith. Mae gwaith eisoes ar y gweill i wella mynediad, lleihau amseroedd aros a chryfhau gwasanaethau ar draws ysbytai, lleoliadau cymunedol a rhanbarthol.
Wrth i ni symud o gynllunio i gyflawni, rydym yn canolbwyntio ar droi'r weledigaeth hon yn welliannau gwirioneddol i gleifion a chydweithwyr. Mae hyn yn golygu meddwl yn wahanol am sut rydym yn darparu gofal, gweithio'n agosach gyda'n partneriaid, a chyflawni newid yn gyflym.
Diolchwn i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i ymgysylltu â ni ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol. Gwyddom, dros oes y cynllun hwn, y bydd anghenion iechyd ein poblogaeth yn parhau i gynyddu a newid, a bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i ymgysylltu'n agored wrth i ni symud ymlaen, gan sicrhau bod ein gwasanaethau'n esblygu mewn partneriaeth â'r bobl sy'n eu defnyddio ac yn eu darparu.
Os hoffech ddarllen y Cynllun Gwasanaethau Clinigol (2026-2035) yn fanwl, gallwch wneud hynny yma.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.