Mae'r brechlyn HPV yn achub bywydau.
Mae ymchwil newydd nodedig wedi datgelu bod y risg o farw o ganser ceg y groth cyn 30 oed i blant sy'n cael eu brechu yn erbyn HPV yn 12-13 oed bron yn sero.
Mae'r brechlyn HPV yn amddiffyn bechgyn A merched rhag canserau a achosir gan y feirws papiloma dynol (HPV) ac mae'n un o'r dulliau atal canser mwyaf effeithiol sydd ar gael.
Fe'i cynigir ym mhob ysgol uwchradd bob blwyddyn gan ein Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgol.
Peidiwch â phoeni os collodd eich plentyn y brechlyn yn yr ysgol – rydym yn cynnig clinigau dal i fyny ar gyfer HPV i bobl ifanc (ym mlynyddoedd ysgol 8-11) ym mis Gorffennaf:
Dydd Iau 2 Gorffennaf
Canolfan Iechyd Glan yr Afon, CF11 9SH
8:45am–4:30pm
Apwyntiadau ac opsiwn i alw heibio ar gael
Dydd Mercher 8 Gorffennaf
Ysbyty'r Barri, CF62 8YH
1:00pm–4:00pm
Apwyntiadau ac opsiwn i alw heibio ar gael
Dydd Iau 16 Gorffennaf
Canolfan Iechyd Glan yr Afon, CF11 9SH
8:45am–4:30pm
Apwyntiadau ac opsiwn i alw heibio ar gael
Dydd Llun 20 Gorffennaf
Hyb Llesiant Maelfa, CF23 9PN
9:00am–12:30pm
Apwyntiadau yn unig
Dydd Llun 20 Gorffennaf
Canolfan Fenter Gymunedol y Barri, CF62 9DA
9:00am–12:30pm
Apwyntiadau yn unig
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad, ffoniwch 02920 907661.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.