AWMGS wedi'i gydnabod am wella'r daith drwy wasanaethau genomig i gleifion ledled Cymru

23 Hydref 2026

Mae Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS) yn darparu gwasanaethau genomig arbenigol i gleifion ledled Cymru. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi'r broses o roi diagnosis a rheoli ystod eang o gyflyrau, gan helpu cleifion i gael mynediad at y gofal, y cyngor a'r driniaeth sydd eu hangen arnynt.

Mae'r tîm wedi bod yn gweithio ar wella'r daith drwy wasanaethau genomig a lleihau amseroedd aros i gleifion ledled Cymru. Roedd galw cynyddol ac amrywiad mewn ymarfer yn creu oedi, gan arwain cydweithwyr at adolygu sut roedd gwasanaethau'n cael eu darparu a nodi ffyrdd o wella profiad cleifion.

Bu cydweithwyr o bob rhan o'r gwasanaeth yn cydweithio i ailgynllunio gwasanaethau a gwella'r daith drwy wasanaethau genomig, gyda'r nod o ddarparu gofal genomig mwy diogel, cyflym a theg i gleifion.

Bu tîm amlddisgyblaethol o wyddonwyr gofal iechyd, cwnselwyr genetig, meddygon, cydweithwyr gweithredol, gweinyddol, labordy a chymorth yn cydweithio i nodi ble roedd oedi'n digwydd a datblygu atebion ymarferol. Rhan allweddol o'r gwaith hwn oedd dull “delio â'r hyn sy'n eich poeni”, gan annog y staff sydd agosaf at y gwaith i nodi problemau a gwneud gwelliannau.

Arweiniodd hyn at ddatblygu Fframwaith Darbodus, gan helpu timau i weithio tuag at nodau cyffredin ac ysgogi newid cadarnhaol ar draws y gwasanaeth.

Mae'r gwaith wedi helpu i leihau oedi, gwella cyfathrebu rhwng timau, lleihau arosiadau hir a rhyddhau mwy o amser clinigol a gwyddonol ar gyfer gofal uniongyrchol cleifion.

Mae cleifion bellach yn cael mynediad at wasanaethau genomig yn gyflymach, tra bod cydweithwyr yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wella gwasanaethau ac ymateb i'r galw cynyddol.

Mae'r prosiect hefyd wedi creu diwylliant lle mae aelodau staff yn teimlo eu bod yn gallu codi eu llais, nodi problemau ac awgrymu atebion, gan helpu i sicrhau bod gwelliant yn rhan o arfer bob dydd.

Dywedodd Matthew Howells, Rheolwr Cyffredinol, AWMGS:

“Mae'r enwebiad hwn gan y tîm yn anrhydedd, ond mae wir yn perthyn i'n tîm cyfan. Mae eu parodrwydd i groesawu newid, herio'r status quo a rhoi cleifion wrth wraidd popeth a wnawn wedi bod yn ysbrydoledig.

“Mae ymgorffori diwylliant o welliant parhaus yn daith yn hytrach na chyrchfan, ac rwy'n hynod falch o'r ffordd y mae ein cydweithwyr wedi dod at ei gilydd i wella bywydau gwaith ein staff a'r canlyniadau i'r cleifion rydyn ni'n eu gwasanaethu.”

I gydnabod y gwaith hwn, mae'r prosiect, Gyrru Rhagoriaeth Gwasanaeth ac Ailgynllunio Trwy Arloesi Darbodus: Gofal Cleifion Diogel, Effeithlon ac Effeithiol wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Gwobr Arweinyddiaeth GIG Cymru yng Ngwobrau GIG Cymru 2026.

Llongyfarchiadau i bawb a oedd yn rhan o'r llwyddiant haeddiannol hwn.