Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad o Anghenion Poblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg 2022-27

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (RPB) Caerdydd a’r Fro wedi cyhoeddi Asesiad o Anghenion Poblogaeth 2022-27 ar gyfer y rhanbarth.

 Crynodeb o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg 2022-27.

Cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ddyletswydd ar awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i baratoi a chyhoeddi asesiad o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth, gan gynnwys gofalwyr y mae angen cymorth arnynt.

Defnyddiwyd data, asesiadau ac adroddiadau presennol i ddeall pa wybodaeth a gasglwyd ers yr Asesiad diwethaf o Anghenion y Boblogaeth yn 2017.

Cynhaliwyd cyfres o grwpiau ffocws i ddiweddaru’r wybodaeth a chael dealltwriaeth well o brofiadau pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Yn ogystal, roedd arolwg cyhoeddus ar gael i bobl ei gwblhau a’i hyrwyddo gan bartneriaid Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro ac ar gyfryngau cymdeithasol. Prin oedd y cyfle i ymgysylltu wyneb yn wyneb o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19.

Defnyddir y canfyddiadau hyn i daflu goleuni ar yr heriau allweddol y mae ein poblogaeth yn eu hwynebu a pha wasanaethau a chymorth sy’n ddefnyddiol iddynt. Dywedodd pobl beth yr hoffent ei weld yn parhau a’r hyn yr hoffent ei newid yn y dyfodol. Mae’r adroddiad hefyd yn disgrifio’r camau nesaf wrth fynd i’r afael â’r materion a godwyd. Cyflwynir canfyddiadau manwl ar draws un ar ddeg o grwpiau poblogaeth yn yr adroddiad, ynghyd â chanfyddiadau trawsbynciol. Darllenwch y canfyddiadau gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yma.

Goruchwyliwyd y gwaith gan gynrychiolwyr o Gyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a chyflwynwyd adroddiad i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro.

Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd ar gyfer Asesiad o Anghenion y Boblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg 2022

Dilynwch ni