Mae apwyntiad adnoddau yn gyfle i chi ddod i siarad â chwnselydd proffesiynol am unrhyw fater neu sefyllfa sy'n gysylltiedig â'r cartref neu'r gwaith. Gall yr apwyntiad bara hyd at awr, felly bydd gennych ddigon o amser i drafod eich sefyllfa.
Yn eich Apwyntiad Adnoddau, bydd y cwnselydd yn ceisio gwneud y canlynol, trwy wrando, myfyrio a gofyn cwestiynau:
- Cael stori 'ddigon cyflawn' a darganfod sut mae'r sefyllfa neu'r mater yn effeithio arnoch chi (o ran meddyliau, teimladau ac ymddygiad)
- Deall y mater neu'r sefyllfa yng nghyd-destun ehangach eich bywyd
- Deall hanes y sefyllfa a lle mae hi ar hyn o bryd
- Edrych ar 'beth sy'n helpu' a 'beth sy'n gwaethygu'
- Cadarnhau eich ffyrdd cyfredol o reoli'r sefyllfa, a'ch helpu i gofio sut rydych wedi defnyddio cryfderau ac adnoddau yn y gorffennol
- Gweithio gyda chi i gynhyrchu opsiynau ynglŷn â'r mater neu'r sefyllfa
- Edrych ar ba gefnogaeth ac adnoddau sy'n bodoli i chi eisoes, ac ystyried pa adnoddau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi
Gall hyn gynnwys:
Gall unrhyw weithiwr BIP ddod am Apwyntiad Adnoddau ac mae'r gwasanaeth am ddim i holl weithwyr y BIP.