Neidio i'r prif gynnwy

Contractau Anrhydeddus

Pryd i roi Contract Anrhydeddus

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn rhoi contractau anrhydeddus i unigolion nad ydynt yn cael eu cyflogi gan y BIP, ond a fydd yn dod i gysylltiad â staff, cleifion neu aelodau o'r cyhoedd wrth wneud gwaith ar safle'r Bwrdd Iechyd.

Dim ond ar gais aelod awdurdodi priodol o staff y Bwrdd Iechyd y rhoddir Contractau Anrhydeddus. Cyfrifoldeb y swyddog awdurdodi yw sicrhau bod yr unigolyn yn addas ac yn gymwys i gyflawni'r rôl y mae'r contract wedi'i roi ar ei chyfer, a bod y gwiriadau angenrheidiol wedi'u cynnal cyn i'r contract gychwyn.

Am wybodaeth bellach gweler y Canllawiau Contractau Anrhydeddus.

Proses ar gyfer rhoi Contract Anrhydeddus

Er mwyn trefnu bod Contract Anrhydeddus yn cael ei roi, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

Bydd angen cliriad Iechyd Galwedigaethol ar bob ffurflen gais am gontract anrhydeddus. Os nad yw'r unigolyn sydd angen contract anrhydeddus wedi'i glirio eto, cwblhewch yr Holiadur Iechyd Galwedigaethol a'i anfon i Iechyd Galwedigaethol.

Ar ôl eu cwblhau, dylid cyflwyno'r holl ddogfennau i'r cyfeiriad e-bost canlynol:

CAVHR_Actionpoint@wales.nhs.uk

Sylwch fod angen derbyn ceisiadau am Gontract Anrhydeddus o leiaf bythefnos cyn dyddiad dechrau'r contract.

Dilynwch ni