Sicrhewch eich bod wedi darllen yr hysbyseb, y disgrifiad swydd a manyleb y person yn ofalus. Rydyn ni eisiau gweld angerdd am y rôl rydych chi'n ymgeisio amdani a'ch bod chi wedi cynnwys yr holl sgiliau, cymwysterau a rhinweddau personol rydyn ni'n chwilio amdanyn nhw. Byddai profi eich bod wedi ymchwilio i’n sefydliad, eich bod yn deall ein gweledigaeth a’ch bod yn gallu dangos y gwerthoedd a’r ymddygiadau y disgwyliwn gan ein staff yn fantais amlwg.
Bydd gan bob hysbyseb berson cyswllt, byddem bob amser yn argymell cysylltu i gael gwybod mwy am y rôl ac o bosibl trefnu ymweliad.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.