Neidio i'r prif gynnwy

Prentisiaethau - Cyngor a Chanllawiau

Prentisiaeth mewn Cyngor a Chanllawiau Lefel 4

I bwy mae'r cymhwyster hwn?

Datblygwyd y cymhwyster hwn i gefnogi'r rhai sy'n cael eu cyflogi yn y sectorau gwasanaeth sy'n gysylltiedig â gwybodaeth, cyngor ac chanllawiau. Hyd y cwrs yw 18 mis.

Enghraifft o'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer y lefel hon

Gweithwyr sy'n gweithio gydag ystod o gleientiaid ac asiantaethau, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, asiantaethau cymorth a sefydliadau cymorth cymdeithasol eraill. Bydd y fframwaith yn rhoi'r sgiliau y mae unigolion eu hangen i ddarparu gwybodaeth, cyngor a/neu wasanaethau cysylltiedig â chanllawiau o ansawdd uchel (yn dibynnu ar y rôl), eu helpu i ddatblygu yn eu rôl, a chefnogi dilyniant i rolau goruchwylio, rheoli a/neu broffesiynol uwch.

Buddion i unigolion:

  • Dysgu a datblygu sgiliau newydd a rhai presennol
  • Ennill cymhwyster a gydnabyddir ac a werthfawrogir yn genedlaethol
  • Gwella hyder ac effeithiolrwydd personol

Am wybodaeth bellach cyfeiriwch at y fframwaith llawn.

Dilynwch ni