Gan gydnabod y ddwy flynedd heriol y mae cydweithwyr nyrsio, bydwreigiaeth, ODP a chymorth gofal iechyd wedi eu hwynebu yn eu gwaith, fe’ch gwahoddir i rannu eich adborth trwy ap symudol newydd i weithwyr - Winning Temp.
Arolwg Ymgysylltiad Meddygol
Cwblhawyd Arolwg Ymgysylltiad Meddygol yn 2021. Mae adroddiad yr arolwg hwn ar gael yma .
Croeso i'r Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Gweithwyr!
Mae'n debyg eich bod ar eich ffordd i wella ymgysylltiad staff yn eich tîm(au). Mae chwilio am ddulliau defnyddiol a dysgu ffyrdd newydd yn debygol o adeiladu ar eich sgiliau a'ch doniau presennol a gobeithio y bydd yn rhoi egni i'ch ymdrechion i ymgysylltu ag eraill.
Mae'r Pecyn Cymorth hwn yn cynnwys rhai enghreifftiau ymarferol a gwybodaeth i helpu staff, rheolwyr llinell, uwch reolwyr a'r tîm Gweithlu a Datblygu Sefydliadol i gydweithio i gynyddu ymgysylltiad staff a gwneud y BIP yn 'lle gwell i weithio a dysgu'.
Crëwyd y Pecyn Cymorth trwy ddwyn ynghyd y technegau sydd ar waith ar hyn o bryd ac a ddefnyddir gan reolwyr, gweithwyr proffesiynol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol a’r Tîm Gwella Gwasanaethau. Gobeithiwn y bydd y cynnwys yn ddefnyddiol ac yn gefnogol i chi. Rydym bob amser yn croesawu adborth. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut i wella'r adnodd, cysylltwch ag aelod o'r Tîm Gweithlu a Datblygu Sefydliadol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi bod yn gweithio'n galed i wella ymgysylltiad staff ac argymhellir eich bod yn ymgyfarwyddo â ' Fframwaith Strategol Ymgysylltu â Staff 2017-2020 '. Mae’r Fframwaith hwn yn nodi beth yw ymgysylltu â staff, pam ei fod yn bwysig, rolau allweddol, yn adlewyrchu ar yr hyn rydym eisoes wedi’i roi ar waith a sut rydym yn bwriadu gwella ymgysylltiad staff ar draws y Bwrdd Iechyd.