Neidio i'r prif gynnwy

Ennill Temp

Fel rhan o’n Cynllun Pobl a Diwylliant, rydym am ymgysylltu â gweithlu iach, a’i ysgogi, er mwyn helpu i wella profiad cyffredinol y staff a helpu i wneud Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn lle gwell i weithio ynddo.

Mae Winning Temp yn rhoi cyfle i gydweithwyr yn y rolau hynny roi adborth a chodi pryderon am eu gweithle yn ddienw ac ar amser a lle sy’n gyfleus iddynt hwy. Gellir cael gafael arno trwy ‘app stores’ neu ar fwrdd gwaith.

Lawrlwythwch yr app yma

I gael gwybodaeth fanwl am sut a pham y caiff eich gwybodaeth ei phrosesu, edrychwch ar yr hysbysiad preifatrwydd canlynol.

 

Lawrlwythwch y poster i'w osod yn eich gweithle.

Trwy’r ap, gall cydweithwyr godi pryderon a rhoi barn ar brofiadau eu staff yn ogystal â rhannu awgrymiadau ar sut y gellir eu cefnogi’n well.

Bydd staff yn cael eu gwahodd i ymateb i gwestiynau drwy’r ap yn wythnosol dros y pedwar mis nesaf a fydd yn helpu i adeiladu darlun o les gweithwyr mewn amser real.

Mae’r holl ddata’n ddiogel a dim ond ar ffurf ddienw y bydd ar gael i’r Bwrdd Iechyd. Bydd y wybodaeth a gesglir drwy'r ymatebion yn cael ei bwydo'n ôl i Gyfarwyddwyr Nyrsio a Chyfarwyddwyr Byrddau Clinigol i'w thrafod, a gall uwch arweinwyr wedyn bennu ffyrdd o reoli heriau tymor byr a phroblemau tymor hwy. Gallwch weld yr hysbysiad preifatrwydd llawn yma.

Gallwch ddarganfod mwy am Winning Temp trwy siarad â rheolwr eich adran neu gysylltu â'r Tîm Addysg, Diwylliant a Datblygu Sefydliadol trwy ein ActionPoint .

Gwybodaeth i Reolwyr

Os ydych yn rheolwr, ewch i sesiwn ymwybyddiaeth ddydd Llun 11 Gorffennaf 2022;

11:30-12:00 - Cliciwch yma i ymuno â'r cyfarfod

NEU

12:30-13:00 - Cliciwch yma i ymuno â'r cyfarfod

Os hoffech chi drefnu ymweliad â'ch ward, ddydd Mercher 13 Gorffennaf 2022 , i ddangos yr ap, cysylltwch â Rebecca.Corbin@wales.nhs.uk i drefnu amser.

Dilynwch ni