Neidio i'r prif gynnwy

Undebau Credyd

P'un a hoffech sefydlu cyfrif cynilo rheolaidd, neu gymryd benthyciad cost isel diogel, mae Undebau Credyd yno i helpu, a chynnig nifer o fuddion i chi.

Mae Undebau Credyd yn gwmnïau cydweithredol ariannol, y mae eu haelodau'n berchen arnynt ac yn eu rheoli ar sail dielw. Maent yn gweithredu trwy gronni cynilion aelodau gan greu cronfa o arian, a ddefnyddir wedyn i gynnig ffynhonnell credyd i aelodau ar gyfradd llog isel.

Mae Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro yn rhedeg cynllun didynnu cyflogres llwyddiannus lle gall holl weithwyr y GIG gynilo'n uniongyrchol i gyfrif cynilo Undeb Credyd o'u cyflogau. Ymunwch ar-lein yn www.cardiffcu.com.

 

Dilynwch ni