Mae Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yn darparu gwasanaeth radioleg deintyddol cynhwysfawr. Mae'r archwiliadau a wneir yn cynnwys:
Techneg lle y caiff y derbynnydd digidol ei roi'r tu mewn i'r geg. Fe'i defnyddir pan fydd angen cryn fanylder am y dannedd a'r asgwrn cynnal. Mae angen amdani'n fwyaf aml i helpu gwneud diagnosis o bydredd dannedd a chlefyd periodontol (clefyd y deintgig).
Techneg lle y caiff y derbynnydd digidol ei osod y tu allan i'r geg. Fe'i defnyddir yn gyffredinol i ddangos clefyd mwy helaeth sy'n effeithio ar y genau neu i helpu gwneud diagnosis o gyflyrau fel toresgyrn yn yr wyneb.
Dyma dechneg pelydr-x newydd, dos isel, sy'n tynnu delweddau 3 dimensiwn o'r dannedd a'r genau. Fe'i defnyddir yn gyffredinol i reoli cyflyrau mwy cymhleth sy'n effeithio ar y dannedd a'r genau.
Dyma weithdrefn anymwthiol sy'n cael ei defnyddio i archwilio chwyddiadau'r pen a'r gwddf. Mae'n dechneg ddi-boen a chaiff stiliwr uwchsain ei osod ar wyneb y croen er mwyn cael delweddau.
Weithiau, er mwyn darganfod beth yn union mae chwydd yn ei gynrychioli, bydd angen biopsi. Ar gyfer y dechneg hon, caiff nodwydd fân iawn ei gwthio i'r chwydd o dan arweiniad uwchsain, i dynnu rhai celloedd. Yna, mae'r celloedd yn cael eu harchwilio mewn labordy er mwyn gwneud diagnosis.
Gweithdrefn sy'n cynnwys rhoi llifyn yn un o'r chwarennau poer. Wedyn, bydd lluniau pelydr-x yn cael eu tynnu o'r chwarren boer. Defnyddir y dechneg hon yn gyffredinol i wneud diagnosis o rwystrau yn y chwarennau poer.