Prif ffocws adran Meddygaeth y Geg yw darparu gofal heb lawdriniaeth i gleifion â chyflyrau yn ardal y geg, yr ên a’r wyneb (e.e. y geg, y genau, yr wyneb a'r gwddf) gan gynnwys poen hirdymor yn yr wyneb.
Rydym yn cynnig gwasanaeth llawn ar gyfer cyflyrau mwcws y geg, gan gynnwys:
Rydym yn cydweithio ag amrywiaeth o arbenigeddau meddygol a deintyddol megis llawfeddygon yr ên a’r wyneb, deintyddion adferol, offthalmolegwyr, rhiwmatolegwyr, gastroenterolegwyr, hematolegwyr a dermatolegwyr i lunio cynlluniau triniaeth a chefnogi'r rhai sydd â chyflyrau hirdymor sy'n gysylltiedig â phroblemau’r geg a’r wyneb.

Mae ein hadran yn cyfrannu’n weithredol at addysgu a hyfforddi myfyrwyr israddedig mewn Deintyddiaeth a Hylendid a Therapi Deintyddol, yn ogystal â deintyddion ôl-raddedig ar ffurf Hyfforddeion Craidd ac Arbenigol.
Mae ein tîm ymroddedig o glinigwyr yn cynnwys:
Un Meddyg Ymgynghorol (Dr Sandra Goncalves)
Dau Gofrestrydd Arbenigol
Dau Hyfforddai Craidd
Tîm o Nyrsys Deintyddol
Gallwch gael eich derbyn i adran Meddygaeth y Geg trwy atgyfeiriad gan eich Ymarferydd Deintyddol, Ymarferydd Meddygol Cyffredinol yn ogystal â Meddygon Ymgynghorol mewn arbenigeddau eraill. Ar gyfer cleifion sydd o dan ofal tîm Meddygaeth y Geg ar hyn o bryd, gallwch newid neu addasu apwyntiad presennol drwy ffonio: 02921842492.
Mae ymchwil yn hanfodol i wella'r gofal a gewch pan fyddwch chi'n sâl. Gallwch chi helpu i wella gofal iechyd drwy gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil yn ein Hymddiriedolaeth. Yn ystod eich apwyntiad, byddwn yn dweud wrthych am unrhyw astudiaethau ymchwil y gallech fod yn gymwys i ymuno â nhw.
Mae Adran Meddygaeth y Geg wedi'i lleoli ar ail lawr Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, Rhodfa Academaidd, Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd CF14 4XY.