Mae Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yn darparu gwasanaeth arbenigol cynhwysfawr ar gyfer llawdriniaeth yr ên a'r wyneb / llawdriniaeth y geg.
Mae'r gwasanaeth yn cynnwys:
- llawdriniaeth ar gyfer trawma i'r wyneb
- mân lawdriniaeth y geg
- cyflyrau cyn-falaen a malaen y pen a'r gwddf
- anhwylderau'r chwarennau poer
- tynnu dannedd gyda neu heb dawelyddu ymwybodol
- dannedd cywasgedig a chymhleth y mae angen eu tynnu
- diffygion creuanwynebol a'r geg
- problemau'r cymal arleisiol-mandiblaidd
- patholeg yr wyneb, y geg, y genau a'r gwddf at ddiben cyngor, diagnosis a rheolaeth.
Mae'r gwasanaeth wedi'i leoli ar y Llawr Gwaelod.