Mae cleifion sy'n cael triniaeth o fewn y gwasanaeth hwn yn cael eu gweld ar sail arhosiad dydd. Mae triniaethau'n cynnwys gweithdrefnau llawfeddygol i oedolion a phlant, ac mae rhestri penodol ar gyfer gwaith adferol i blant a chleifion ag anghenion arbennig.
Caiff cleifion eu derbyn trwy atgyfeiriadau mewnol gan glinigau amrywiol ar draws yr Ysbyty Deintyddol. Bydd pob claf yn cael asesiad ymlaen llaw gan nyrsys cyffredinol i benderfynu a ydynt yn addas i gael triniaeth dan anesthetig cyffredinol.
Hefyd, mae'r gwasanaeth hwn yn darparu triniaethau i gleifion sy'n pryderu am gael gofal deintyddol ac, yn fwy penodol, am gael llenwadau niferus neu am dynnu dannedd.
Mae Llawdriniaeth Ddydd dan Anesthetig Cyffredinol wedi'i lleoli ar y Llawr Gwaelod.