Mae'r Adran Archwiliadau ac Argyfyngau wedi'i lleoli ar y Llawr Gwaelod.
Nid yw'r adran yn cynnal system docynnau "Y cyntaf i'r felin" mwyach. Os bydd angen sylw deintyddol brys arnoch ond nid oes gennych eich deintydd eich hun, rhaid i chi ffonio'r Llinell Gymorth Ddeintyddol ar 029 20 444 500, sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, am 365 diwrnod y flwyddyn. Gofynnir cyfres o gwestiynau i chi, yna cewch eich cyfeirio at y man mwyaf priodol i dderbyn gofal.
Bydd Adran Argyfwng yr Ysbyty Deintyddol yn trin y canlynol yn unig, yn dilyn atgyfeiriadau gan y Llinell Gymorth Ddeintyddol:
Gwelir cleifion yn nhrefn blaenoriaeth glinigol ac nid yn ôl amser cyrraedd.
Nid yw'n bosibl gweld deintyddion arbenigol yn y gwasanaeth hwn. Fodd bynnag, bydd y staff clinigol yn gwneud popeth yn eu gallu i wneud yn siwr bod eich poen a'ch symptomau'n cael eu lleddfu.
Mae'r Clinig Archwiliadau ac Argyfyngau wedi'i leoli yn yr Ysbyty Deintyddol ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener (heblaw am Wyliau Banc). Mae'r drysau'n agor am 7.30am bob bore ac mae'r clinig yn dechrau am 9am. Rhaid i gleifion gofio y gall fod yn rhaid aros am sawl awr a thriniaeth dros dro sy'n cael ei rhoi.
Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu'ch gweld chi yn y Clinig Argyfwng os byddwch yn cyrraedd heb gysylltu â'r Llinell Gymorth Ddeintyddol yn gyntaf, neu os ydych chi wedi cofrestru gyda deintydd.
Chwiliwch am ddeintydd yn eich ardal leol.