Neidio i'r prif gynnwy

Deintyddiaeth Gynaliadwy

Yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, rydym yn credu 'nad oes rhaid i ofal deintyddol da gostio ffortiwn'….

Oeddech chi'n gwybod?

Mae'r argyfwng hinsawdd yn parhau i fod yn un o heriau iechyd mwyaf heddiw ac mae’r dystiolaeth o’r effaith ar iechyd y boblogaeth a'r system iechyd yn dal i dyfu.

Mae Deintyddiaeth y GIG yn cyfrif am oddeutu 3% o gyfanswm ôl troed carbon y GIG. Mae angen i ni leihau gwastraff, arbed ynni a gweithio'n gynaliadwy i ddarparu'r gofal deintyddol o'r ansawdd uchaf.

Mae Ysbyty Deintyddol y Brifysgol mewn sefyllfa unigryw i ymateb i'r angen hwn am newid cynaliadwy. Ni yw'r unig ysbyty addysgu yng Nghymru. Rydym yn addysgu'r genhedlaeth nesaf o ddeintyddion, rydym yn darparu gofal i gleifion â'r anghenion deintyddol mwyaf cymhleth yng Nghaerdydd a'r Fro, ac rydym yn gweithio ac yn cydweithio â phob sefydliad Deintyddol yng Nghymru. Ni yw'r bobl iawn sydd yn y lle iawn i yrru'r newid cynaliadwy hwn mewn gofal deintyddol yn ei flaen.

Beth ydym ni'n ei wneud amdano?

Mae Ysgol Ddeintyddol Caerdydd wedi gweithio'n agos gyda'r ysbyty i:

Leihau Gwastraff, gwneud newidiadau cynaliadwy, gan gynyddu ymwybyddiaeth o'r agenda cynaliadwyedd drwy addysg

Nid dim ond gair poblogaidd yw cynaliadwyedd - dyma ein Cenhadaeth!

 

Beth ydyn ni wedi’i wneud hyd yma?

Rydym wedi gweithio gyda Chomisiwn Bevan Gwreiddio Cynaliadwyedd yn Unig Ysbyty ac Ysgol Ddeintyddol Cymru: Creu’r Naratif ar gyfer Newid - Comisiwn Bevan i helpu i gyflawni’r nodau hyn.

 

Rydym wedi cwblhau 15 o brosiectau cynaliadwy hyd yn hyn.

Er enghraifft:

Ø Mewn gwasanaethau theatr deintyddol, rydym wedi lleihau nifer yr achosion o ganslo gan gleifion

Ø Rydym wedi lleihau allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â theithiau cleifion i apwyntiadau trwy gynnig ymgynghoriadau rhithwir

Ø Lleihau gwastraff drwy leihau'r defnydd o ddysglau argraffau deintyddol untro a drychau deintyddol untro

 

Roedd yr holl brosiectau hyn yn cynnwys ac yn cael eu cynnal gan fyfyrwyr deintyddol a staff y GIG.

 

Beth allwch chi ei wneud i helpu?

Rydyn ni eisiau i'n cleifion – CHI – fod yn rhan o'r newid hwn.

 

Oeddech chi’n gwybod…

Er enghraifft, mae pob apwyntiad deintyddol a fethir yn costio £194 i'r Ysbyty Deintyddol, felly rydym am i CHI helpu'r GIG trwy ganslo unrhyw apwyntiadau na allwch fynychu fel y gallwn eu cynnig i gleifion eraill.

OND gallwch chi helpu mewn llawer mwy o ffyrdd ………Rydym wedi llunio gwybodaeth a allai eich helpu i wneud newidiadau cynaliadwy i'ch iechyd deintyddol eich hun.

 

Gall yr wybodaeth hon eich helpu i’n cefnogi ni i ddarparu’r gofal deintyddol gorau nad oes rhaid iddo gostio ffortiwn.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni