Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil a Datblygu

Croeso i Adran Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Mae ymchwil yn helpu i wella gwybodaeth sydd o fudd i iechyd y cyhoedd a gofal cleifion, yn ogystal â datblygu triniaethau yn y GIG a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Mae Adran Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn adnabyddus yn rhyngwladol am gynnal gwaith ymchwil clinigol arloesol sy'n canolbwyntio ar wella gofal a datblygu triniaethau gwell. Mae ein gwaith gyda'r byd academaidd, sefydliadau masnachol, diwydiant a chanolfannau ymchwil eraill yn hollbwysig i wella gofal iechyd. Mae Ymchwil a Datblygu wedi'u hymsefydlu ar draws y Bwrdd Iechyd ac rydym yn ganolfan arweiniol ar gyfer treialon clinigol ac astudiaethau eraill yng Nghymru.

Mae'r swyddfa Ymchwil a Datblygu yn cefnogi datblygiad gwaith ymchwil o ansawdd uchel yn y Bwrdd Iechyd, ac mae'n sicrhau ei fod yn cael ei gynnal a'i reoli i safon wyddonol a moesegol uchel.

Mae'r swyddfa Ymchwil a Datblygu yn cael cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gynyddu capasiti a gallu er mwyn cefnogi gwaith ymchwil o ansawdd uchel a chael yr effaith fwyaf posibl.

Ynglŷn â'r Swyddfa Ymchwil a Datblygu
Newyddion a Digwyddiadau Ymchwil a Datblygu
Ymchwil a Datblygu a'r Cyhoedd
Gwybodaeth am Ymchwil a Datblygu i Ymchwilwyr
Ymchwil a Datblygu Masnachol
Gwybodaeth am Nawdd
Adnoddau Ymchwil a Datblygu
Rhestr Termau Ymchwil a Datblygu
Dilynwch ni