Neidio i'r prif gynnwy

Neffritis acíwt

Mae'n bosibl trin y rhan fwyaf o blant â neffritis acíwt ar ôl haint yn yr ysbyty lleol mewn ymgynghoriad â'r SPIN ac arenegwyr pediatrig yng Nghaerdydd neu yn Lerpwl (ar gyfer gogledd Cymru). Mae'n anarferol bod angen therapi amnewid arennol ar y plant hyn. Cyfeiriwch at y canllaw y mae eich prif ganolfan arenneg bediatrig wedi'i gymeradwyo. 

Dylid trafod cleifion sy'n datblygu neffritis acíwt lle nad amheuir iddo gael ei achosi ar ôl haint gyda meddyg ymgynghorol arenneg bediatrig.
Mewn cleifion sydd wedi cael diagnosis o neffritis ar ôl haint, dylai'r nodweddion canlynol ysgogi trafodaeth gydag arenegwr pediatrig:
 
  • Oligwria sy'n methu ag ymateb i ddosys digonol o ffwrosemid (gall fod angen dosys o hyd at 5 mg/kg os oes nam ar yr arennau).
  • Nam cyson ar yr arennau 
  • Proteinwria cyson 
  • Nid yw lefelau cyflenwad yn normaleiddio erbyn 8 wythnos