Neidio i'r prif gynnwy

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn darparu Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys i gleifion ledled Cymru sy'n methu mynd i'w hapwyntiadau ysbyty ac adref o'u pen a'u pastwn eu hunain, a hynny am resymau meddygol.

Mae'n adnodd hanfodol i helpu'r cleifion hynny sy'n dibynnu ar y gwasanaeth ac ni ddylai gael ei ddefnyddio gan bobl heb angen meddygol. 

Sylwch, nid yw'r angen am driniaeth yn golygu angen am gludiant yn awtomatig. Mae'n rhaid i bob claf fynd trwy broses gymhwystra i sicrhau bod eich anghenion yn briodol i'r gwasanaeth. 

I gleifion nad ydynt yn gymwys, mae Tîm Cludiant Amgen sy'n gallu trafod opsiynau cludiant yn eich ardal.

Gallech fod yn gymwys i gael cludiant ysbyty:

  • Os ydych chi'n cael dialysis rheolaidd neu driniaeth ganser 
  • Os bydd angen stretsier arnoch ar gyfer y daith
  • Os bydd angen ocsigen arnoch ar gyfer y daith 
  • Os bydd angen i chi deithio yn eich cadair olwyn eich hun 
  • Os nad ydych yn gallu cerdded heb gymorth parhaus 
  • Os nad ydych yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus gan fod cyflwr meddygol arnoch a fyddai'n peryglu'ch urddas 
  • Os oes gennych anawsterau cyfathrebu difrifol 
  • Os byddwch yn profi sgil effeithiau o ganlyniad i'r driniaeth ar gyfer eich cyflwr 

Canslo Cludiant 


Mae hyd at 100,000 o siwrneiau Cludo Cleifion Di-frys bob blwyddyn lle nad yw'r claf yn teithio neu nid oedd y claf yn y pwynt casglu pan gyrhaeddodd ein criwiau.  

Mae canslo cludiant, os nad oes arnoch ei angen mwyach, yn bwysig iawn, ac mae'n caniatáu i'r Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys gynnig y lle i glaf arall.  

Os ydych chi'n gymwys ac yn archebu cludiant, ond bydd angen i chi ganslo, ffoniwch y rhif isod neu ewch i wefan y gwasanaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambulance.wales.nhs.uk neu ffoniwch 0300 123 2303

Cliciwch ar y ddelwedd isod i lawrlwytho Taflen ein Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys