Neidio i'r prif gynnwy

Mannau Gwyrdd

Gwirfoddolwyr Mannau Gwyrdd

Ceisiadau’n agor!

Hoffech chi ddarparu cwmni i ddefnyddwyr gwasanaeth a chleifion mewn lleoliad awyr agored a/neu ward?

Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb mewn natur, ymwneud a gweithgareddau awyr agored, a'r defnydd ohonynt o fewn lleoliad gofal iechyd i gefnogi iechyd meddwl.

Mae'r rolau wedi'u lleoli mewn nifer o leoliadau gwahanol.

Edrychwch ar y disgrifiadau rôl isod os oes gennych ddiddordeb.

 

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i wirfoddoli yn y rôl hon.  Mae'r rôl hon yn gofyn am ymrwymiad i gwblhau recriwtio o fewn 8 wythnos i dderbyn cynnig.  Nid yw'r rôl hon yn briodol i'r rhai sydd â phrofiad byw o'r wardiau iechyd meddwl.

Fideo Park Road

 

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i wirfoddoli yn y rôl hon.

Bydd lleoedd yn gyfyngedig a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis ar ôl cyfweliad. Darllenwch hefyd ein canllaw Cam wrth Gam i Recriwtio Gwirfoddolwyr.

Cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl gan ein bod yn cadw'r hawl i newid dyddiad cau'r cyfle hwn os bydd nifer sylweddol o bobl â diddordeb yn y rôl.

Dilynwch ni