Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i fod yn bresenoldeb calonogol i bobl hŷn pan fyddant yn ddifrifol wael a gallant fod yn ddryslyd neu'n ofidus. Bydd y rôl yn cynnwys gweithredu fel wyneb cyfeillgar, cymryd rhan mewn sgwrs a gweithgareddau wrth erchwyn gwely ac ystafelloedd dydd.
Bydd yn ofynnol i Wirfoddolwyr Cydymaith fod yn llawn cymhelliant, a meddu ar sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu da, gan ddod i adnabod cleifion a'u teuluoedd i gefnogi cleifion yn well yn ystod eu cyfnod yn yr uned.
Bydd gwirfoddolwyr wedi’u lleoli ar un ward yn Ysbyty Athrofaol Cymru, sy’n gofalu am y rhai sydd yn bennaf dros 65 oed, sydd hefyd â dementia.
Bydd y rôl yn cynnwys ymgysylltu â chleifion sydd ag anghenion a lefelau amrywiol o weithredu a chyfathrebu, yn ogystal ag ymddygiadau sy'n herio, ac felly bydd angen gwirfoddolwyr dyfeisgar sy'n gyfathrebwyr hyderus, sydd â dealltwriaeth dda o ddementia a pharodrwydd i ddysgu.
Bydd angen i wirfoddolwyr allu ymrwymo i 4 awr yr wythnos am o leiaf 6 mis.
Darllenwch y disgrifiad rôl llawn cyn gwneud cais.
Mae'r holl slotiau ar gyfer gwneud cais bellach yn llawn, cymerwch olwg ar ein cyfleoedd eraill os oes gennych ddiddordeb o hyd mewn bod yn Wirfoddolwr yn y Bwrdd Iechyd.
Bydd lleoedd yn gyfyngedig a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis ar ôl cyfweliad. Darllenwch hefyd ein canllaw Cam Wrth Gam i Recriwtio Gwirfoddolwyr
Mae'r rôl hon yn gofyn am ymrwymiad i gwblhau recriwtio o fewn 8 wythnos i dderbyn cynnig.